Cyflwynodd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) y ‘Gweithdy Creu Lleoedd, Iechyd a Llesiant’ yng Nghaerdydd ar 30 Ionawr 2020. Roedd themâu’r diwrnod yn canolbwyntio ar ddarparu gwahanol enghreifftiau ac agweddau ar gydweithredu ac arfer da rhwng y meysydd iechyd a chynllunio gofodol. Cynhaliwyd dau weithgaredd grŵp rhyngweithiol er mwyn i gyfranogwyr drafod ac ystyried cyfleoedd i greu dulliau cydweithredu strategol wrth gynllunio datblygiad a sut i wneud y defnydd gorau o werth tystiolaeth iechyd yn ystod camau rheoli datblygiad. I gloi, cyflwynwyd cipolwg ymarferol ar lunio lleoedd iachach a chynaliadwy i bobl gan ddefnyddio astudiaethau achos o’r DU ac yn Rhyngwladol.

Bydd canlyniadau’r gweithdy yn cael eu rhannu ar wefan WHIASU yn fuan

Gweler isod am y cyflwyniadau. (Saesneg yn unig).

Asesiad Effaith ar Iechyd

Liz Green and Lucy O’Loughlin – Grwpiau Blaenoriaeth Strategol

Diweddariad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Ymgysylltu ag Iechyd y Cyhoedd mewn Cynllunio Gofodol

Gweithdy 1 – Cyfleoedd ar gyfer dulliau strategol cydweithredol wrth gynllunio datblygu

Gweithdy 2 – Gwneud y mwyaf o werth Tystiolaeth Iechyd yn y cam Rheoli Datblygu