Mae’r hyfforddiant a ddarperir wedi’i ohirio ar hyn o bryd. Mae gwaith bellach ar y gweill i adolygu ein rhaglen hyfforddi. Dewch yn ôl yn fuan i gael diweddariad.

Yn y cyfamser, mae E-Ddysgu ar gael o hyd – cysylltwch â ni i gael mynediad ato ([email protected])

Mae COVID-19 wedi cyflymu newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at waith a hyfforddiant gyda symudiad at ddarparu mwy ar-lein/o bell. I gefnogi hyn, mae’r Uned wedi buddsoddi mewn meddalwedd newydd i greu ein pecynnau e-ddysgu ein hunain a fydd yn cael eu lletya ar ein tudalennau gwe ein hunain.

Wedi dweud hynny, mae WHIASU hefyd yn cydnabod gwerth hyfforddiant wyneb yn wyneb ac felly mae angen rhaglen ar yr Uned sy’n manteisio ar y cyfle y mae darpariaeth ar-lein yn ei roi gan barhau i alluogi’r fformat mwy traddodiadol pan fydd ein capasiti yn caniatáu hynny.

Mae’r tîm yn edrych ymlaen at adfer y gwasanaeth, ond yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael cyswllt uniongyrchol, anfonwch e-bost at [email protected]