Is-adran Iechyd Ryngwladol

Canolbwynt ar gyfer gwaith iechyd byd-eang, casglu gwybodaeth, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio gweithredol ledled Cymru a’r byd.

Mae’r Is-adran Iechyd Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o ddysgu cymhwysol o bolisi rhyngwladol, ymarferion ac ymchwil er mwyn cefnogi arloesedd iechyd cyhoeddus; datblygu pobl a sefydliadau sy’n gyfrifol dros fyd-eang ac ar draws y GIG; hwyluso cydweithredu a buddsoddi rhyngwladol yng Nghymru; a chryfhau effaith iechyd byd-eang Cymru ’trwy rannu ein hasedau a chyfrannu at ddiogelwch iechyd byd-eang a datblygu cynaliadwy.

Rydym yn rhannu profiad a gwybodaeth cymreig â rhanbarthau rhyngwladol tebyg, yn ogystal â chynorthwyo gyda hwyluso gweithgaredd iechyd mewn gwledydd incwm is a chanolig. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Rhaglen Cymru dros Affrica, Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, EuroHealthNet a phartneriaid cenedlaethol, y DU a rhyngwladol allweddol eraill, gan ddatblygu synergeddau a hyrwyddo cyfleoedd.

Iechyd Rhyngwladol

Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso cydweithrediad a buddsoddiad rhyngwladol yng Nghymru er mwyn diogelu, gwella a hyrwyddo iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldebau iechyd o fewn Cymru a thu hwnt i’w ffiniau. Rydym yn cyfrannu at gryfhau rôl ac effaith iechyd byd-eang Cymru drwy rannu ein hasedau a’n harbenigedd.

Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI)

Sefydlwyd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn 2013 gan Fframwaith Llywodraeth Cymru “Iechyd o fewn a thu hwnt i Ffiniau Cymru: Fframwaith Galluogi ar gyfer Ymgysylltu Iechyd Rhyngwladol”.

Uned Gwyddoniaeth Ymddygiadol – ar gyfer iechyd a llesiant

Mae’r Uned BeSci yn darparu arbenigedd arbenigol ar wyddor ymddygiad, ac yn hyrwyddo ac yn galluogi ei chymhwyso’n gynyddol fel mater o drefn, i wella iechyd a llesiant yng Nghymru. Mae’r Uned yn cefnogi rhanddeiliaid yn y system iechyd y cyhoedd ehangach, i gyflawni newid sylweddol wrth wella canlyniadau iechyd a llesiant.


Is-adran Bolisi Iechyd y Cyhoedd

Yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau yng Nghymru er mwyn gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau.

Ein nod yw dylanwadu ar bolisi a’i lywio ar lefel genedlaethol a lleol, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid eraill i gyflawni ein nodau. Mae’r Is-adran yn cynnwys Tîm Polisi a Phartneriaethau, Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, a’r Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd.

Tîm Polisi a Phartneriaethau

Mae’r Tîm Polisi yn ymgymryd â phrosiectau a rhaglenni gwaith mewn ystod eang o feysydd, gyda’r nod o lywio a dylanwadu ar lunio polisïau yng Nghymru. Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau rhanddeiliaid, megis y rhai yn y sector tai, mae’r Tîm Polisi yn cefnogi rhoi dull iechyd ym mhob polisi ar waith.

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU)

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a defnyddio’r dull asesu’r effaith ar iechyd yng Nghymru yn effeithiol drwy feithrin partneriaethau a chydweithio â gwahanol sectorau. Mae’r uned yn darparu hyfforddiant, arweiniad, gwybodaeth a chyngor ar bob agwedd o gynnal Asesiad Effaith ar Iechyd.

Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd

Sefydlwyd y Ganolfan Gymorth ACE, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gydweithrediad gwirfoddol rhwng sefydliadau o’r enw Cymru Well, i helpu i greu newidiadau sy’n gwneud Cymru’n arweinydd o ran maes mynd i’r afael ag ACEs a’u hatal. Ein cenhadaeth yw rhannu syniadau a dysgu a herio a newid ffyrdd o gydweithio er mwyn i ni allu torri’r cylch ACEs gyda’n gilydd.


Timau a gynhelir

Hwb cefnogi Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod

Sefydlwyd Hwb Cymorth ACE gan gydweithrediad o sefydliadau gwirfoddol o’r enw Cymru Well Wales, er mwyn darparu cefnogaeth wrth wneud newidiadau sy’n gwneud Cymru’n arweinydd wrth fynd i’r afael ag atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Ei nod yw i rannu syniadau a dysgu, a herio a newid ffyrdd o weithio, felly gyda’n gilydd rydyn ni’n torri’r cylch ACEs.

Uned Atal Trais

Sefydlwyd Uned Atal Trais Cymru trwy gyllid gan y Swyddfa Gartref yn 2019. Nod Uned Atal Trais yw atal pob math o drais yng Nghymru trwy fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o atal trais. Mae hyn yn golygu ein bod yn ceisio deall achosion trais ar sail tystiolaeth.

Uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus

Wedi’i sefydlu yn 2017 ac wedi’i leoli yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, mae’r PHCU yn darparu adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer asesu’n gyflym, gan roi cymorth i werthuso, datblygu polisiau a chefnogi Canolfan Cydweithio WHO a, thrwy’r Ganolfan, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG yn ehangach.