« Cyfeiriadur staff

Ymunodd Rebecca â’r tîm yn 2021 a hi yw’r arweinydd strategol ar gyfer Economeg a Modelu Iechyd, ac mae’n cefnogi’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd.

Cyn ei rôl bresennol, bu’n Ymgynghorydd yn nhîm iechyd cyhoeddus lleol Gogledd Cymru am bedair blynedd, gan arwain ar ystod o raglenni gwaith gwella iechyd. Yn ystod pandemig Covid-19, roedd Rebecca yn arweinydd Ymgynghorol ar gyfer Hyb Profi, Olrhain a Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru, a gweithiodd yn helaeth ar draws yr agendâu cartrefi gofal a lleoliadau addysgol.

Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016, cynhaliodd Rebecca hyfforddiant arbenigedd iechyd cyhoeddus yng Ngogledd Orllewin Lloegr, gan weithio ledled Swydd Gaer a Glannau Mersi gydag ystod eang o bartneriaid yr Awdurdod Lleol, y GIG, y Trydydd Sector a Llywodraeth genedlaethol.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl