Mae’r angen am fuddsoddiad mewn iechyd a llesiant i gyflawni datblygu cynaliadwy a thwf economaidd cynhwysol yn gryfach nag erioed yn wyneb sawl her ac adfyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni ymateb ac adfer o’r pandemig COVID-19 cyfredol. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at, ac wedi cyfrannu at, anghydraddoldebau cynyddol ar draws cymunedau, cymdeithas a’n planed, gan greu gwendidau newydd hefyd. Mae hefyd wedi dwyn i’r amlwg ganlyniadau negyddol tanfuddsoddi mewn iechyd a llesiant, ac wedi dangos cysylltiadau clir rhwng buddsoddi mewn iechyd cyhoeddus, nid yn unig i amddiffyn iechyd, a’r economi ehangach.

Mae cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn atal ac iechyd y cyhoedd trwy ddangos ar y cyd werth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol rhaglenni iechyd cyhoeddus yn hanfodol er mwyn bwrw ymlaen ag ymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol, er mwyn galluogi polisi a gweithredu cynaliadwy a theg i bawb. Wrth i ni symud i’r cam adfer o COVID-19, mae’n bwysig bod camau’n cael eu targedu i gynyddu gwerth gwasanaeth ac ymyriadau i’r eithaf. Bydd ymgorffori canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn y broses benderfynu yn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni trwy adeiladu ‘Economi Llesiant’; math o adferiad sy’n gosod cyd-fuddion buddsoddiad iechyd a llesiant, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar draws sectorau yn hanfodol i ailadeiladu ein heconomi a’n cymdeithas.

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith Buddsoddi Cynaliadwy gweler isod:

Cronfa Ddata ac Efelychwr Gwerth Cymdeithasol Iechyd y Cyhoedd

Mae Cronfa Ddata ac Efelychwr Gwerth Cymdeithasol (SVDS) Iechyd y Cyhoedd wedi cael ei ddatblygu gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn rhan o raglen arloesol o waith ac ysgogiad sefydliadol a byd-eang ehangach tuag at gynyddu Gwerth ac Effaith, gan gymhwyso ymagwedd Gwerth Cymdeithasol tuag at ddatblygu ‘Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Werth’ ac Economi Lesiant yng Nghymru a thu hwnt.

Mae hwn yn offeryn arloesol ar gyfer cydgrynhoi, storio a thrin tystioaleth economeg iechyd, sydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar fethodoleg Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) a’i gymhwyso i iechyd y cyhoedd. Gellir ei ddefnyddio i gipio, meintioli, mesur a modelu Gwerth Cymdeithasol (SROI) rhaglenni iechyd y cyhoedd, gan asesu eu canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach.

Mae gan yr SVDS ar gyfer iechyd y cyhoedd ddwy brif swyddogaeth:

1) Cronfa ddata, yn storio tystiolaeth economaidd SROI sydd ar gael ac yn berthnasol, fydd yn cael ei diweddaru a’i hymestyn yn barhaus dros amser; ac

2) Offeryn modelu (efelychwr) i alluogi data economaidd ac iechyd y cyhoedd i gael ei drin i efelychu gwasanaethau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd a modelu amcangyfrifon SROI, sy’n berthnasol i gyd-destun cenedlaethol, lleol, sefydliadau a rhaglen ac i’r boblogaeth. Bydd hwn yn wasanaeth a ddarperir gan WHO CC i’ch tywys drwy’r broses a bydd cymorth i ddehongli’n rhan o’r swyddogaeth hon.

Mae’r offeryn wedi cael ei lywio gan, a’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr Gwerth Cymdeithasol ac SROI; ymchwilwyr ac economegwyr iechyd; a chydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG a Llywodraeth Cymru. Gall ddarparu gwybodaeth hanfodol i helpu i lywio gwneud penderfyniadau iechyd y cyhoedd ac ehangach, blaenoriaethu buddsoddiad a gwella rhaglenni er mwyn cynyddu gwerth am arian a chymorth ar gyfer GIG ac economi fwy cynaliadwy a chydnerth yng Nghymru, gan wneud iechyd a llesiant y boblogaeth yn ganolog.

Mae’r SVDS wedi ei anelu at gydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid a phartneriaid allanol perthnasol (cenedlaethol a rhyngwladol), sydd yn gweithio, neu â diddordeb ym meysydd cyllid iechyd, gwerthuso economaidd, Gwerth Cymdeithasol ac SROI, Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth, modelu iechyd y cyhoedd, buddsoddi mewn iechyd a llesiant, datblygu economaidd cynaliadwy, cryfhau systemau iechyd (y cyhoedd), ac ati. Mae Canllaw i Ddefnyddwyr manwl wedi cael ei ddatblygu; a bydd gweithdai a hyfforddiant pellach yn cael eu trefnu i gynyddu ymwybyddiaeth, defnyddio cymorth a hyrwyddo cymhwyso ym maes iechyd y cyhoedd.

Mae’r SVDS ar gyfer iechyd y cyhoedd ar gael yma: https://svdspublichealth.methods.co.uk/ (saesneg yn unig) a gallwch wneud cais am fynediad trwy ebostio: [email protected] i gofrestru a derbyn manylion mewngofnodi (cofiwch edrych yn eich ffolder sothach).  

Ydych chi’n gwybod am dystiolaeth SROI allai gael ei hychwanegu i’r SVDS ar gyfer Iechyd y Cyhoedd? Rydym bob amser yn chwilio am astudiaethau SROI i’w hychwanegu i’r gronfa ddata. Os ydych yn ymwybodol o unrhyw waith yr hoffech i ni ei ychwanegu, ebostiwch ni yn [email protected].

Ymagwedd Gwerth Cymdeithasol tuag at ddatblygu Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Werth

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu rhaglen waith arloesol, yn cymhwyso ymagwedd Gwerth Cymdeithasol tuag at ddatblygu ‘Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Werth’ ac Economi Lesiant yng Nghymru.

Nod ein gwaith yw:

  1. Arloesi a hyrwyddo’r defnydd o ddulliau ac offer Gwerth Cymdeithasol i gipio canlyniadau ac effeithiau holistaidd (cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol) iechyd y cyhoedd.
  2. Profi a datblygu methodoleg Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) i asesu gwasanaethau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd.
  3. Codi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a gwella gweithredu Gwerth Cymdeithasol ac SROI ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG, a chyrff cyhoeddus ar draws y DU, yn ogystal â Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd a systemau iechyd yn rhyngwladol.
  4. Defnyddio arfer gorau, profiad a dysgu cenedlaethol a rhyngwladol i ddatblygu cyfres o adnoddau i lywio a chefnogi Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Werth fel rhan o Ofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth yng Nghymru.
  5. Helpu i ddatblygu ymagwedd systemau yn seiliedig ar dystiolaeth o Werth Cymdeithasol i gryfhau’r achos dros fuddsoddi yn iechyd a llesiant y boblogaeth, a hwyluso newid cytbwys a chynaliadwy o ran cyllid tuag at ataliaeth sylfaenol ac ymyrraeth gynnar.
  6. Archwilio tystiolaeth a chyfleoedd i ddatblygu’r cysyniad, y fethodoleg a chymhwyso Gwerth Cymdeithasol ac SROI mewn bywyd go iawn i wella iechyd a llesiant, a lleihau annhegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae WHO CC yn creu portffolio amrywiol ac arloesol o gynnyrch ac offer i gefnogi’r achos dros fuddsoddi yn seiliedig ar gynaliadwyedd, tystiolaeth a gwerth mewn iechyd y cyhoedd a thegwch iechyd.

Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yn y daflen Buddsoddiad Cynaliadwy mewn Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: Tuag at Iechyd Cyhoeddus ar sail Gwerth, sy’n rhoi amlinelliad o’r prif gysyniadau, enghreifftiau o gymhwyso, a chyfres o adnoddau i gefnogi cydweithwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu’r agenda hon. Am fwy o wybodaeth, ebostiwch ni yn [email protected]

Economi Llesiant

Mae’r prosiect hwn yn brosiect ar y cyd lefel uchel rhwng Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru), y Ffindir a WHO (Swyddfa Fenis), sy’n canolbwyntio ar nodi a datblygu polisïau, datrysiadau a dulliau arloesol allweddol, gyda nifer o lesiant, cymdeithasol, economaidd a cyd-fuddion amgylcheddol tuag at adeiladu ‘Economi Llesiant’. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gosod pobl a’u llesiant yng nghanol polisi a gwneud penderfyniadau, gan alluogi pawb i gyrraedd eu potensial llawn a mwynhau eu hawliau sylfaenol;
  • Arddangos natur llesiant y boblogaeth, cynnydd cymdeithasol a thwf economaidd sy’n atgyfnerthu ei gilydd;
  • Tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn polisïau, prosesau a strwythurau effeithiol, effeithlon a theg sy’n sicrhau mynediad teg i wasanaethau cyhoeddus a chyfleoedd llesiant;
  • Ymgorffori gwerthoedd cymdeithasol, megis tegwch, cynhwysiant, llesiant a chynaliadwyedd; a defnyddio enillion cymdeithasol ac economaidd ar fuddsoddiad, wrth ddylunio a gweithredu pecynnau adfer ariannol a chymdeithasol COVID-19
  • Cryfhau a hyrwyddo rôl arweiniol Cymru, gan agor cyfleoedd cydweithredol, ymchwil a busnes pellach ledled Ewrop ac yn fyd-eang

Deall Economeg Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru

Prif bwrpas y rhaglen hon yw amcangyfrif cost anghydraddoldeb iechyd a gwerthuso cost-effeithiolrwydd dosbarthu rhaglenni iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw cyflawni’r amcanion canlynol:

  • Nodi patrwm cymdeithasol gwahanol ddefnydd gwasanaethau iechyd yn GIG Cymru
  • I ddadansoddi’r bylchau iechyd ac amlygu penderfynon iechyd sy’n fwyaf dylanwadol
  • Amcangyfrif cost anghydraddoldeb iechyd gan ddefnyddio data gofal eilaidd (derbyniadau cleifion mewnol mewn ysbytai, gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau cleifion allanol), data gwasanaethau meddygon teulu gofal sylfaenol, a data gwasanaethau iechyd cymunedol eraill yng Nghymru.
  • Ymgorffori defnydd gwasanaeth iechyd hanesyddol a gwybodaeth gost amcangyfrifedig ar Lwyfan Datrys Ecwiti Iechyd Cymru (WHES)
  • Gwerthuso cost-effeithiolrwydd dosbarthu gwahanol raglenni iechyd cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio technegau modelu dadansoddol penderfyniadau ac efelychu
Cyfres Modelu Economeg Iechyd (gan gynnwys effaith pandemig COVID-19)

Prif bwrpas y rhaglen hon yw modelu effaith ffactorau economaidd, gan gynnwys newidiadau diweithdra cysylltiedig COVID-19 ar ganlyniadau iechyd a defnydd gwasanaethau iechyd. Nod y rhaglen hon yw cyflawni’r amcanion canlynol:

  • Rhagamcanu canlyniadau economaidd COVID-19 ar Salwch Hirsefydlog yng Nghymru
  • Rhagamcanu canlyniadau economaidd COVID-19 ar Ddefnydd Gwasanaeth Iechyd (HSU) yng Nghymru
  • Rhagfynegi canlyniadau economaidd COVID-19 ar Drais a Throsedd yng Nghymru
  • Amcangyfrif cost COVID-19 o safbwynt y GIG
Rhaglenni Gwerthuso Economaidd

Mae gwerthuso economaidd yn gymhariaeth o gostau a chanlyniadau ymyriadau gofal iechyd, sy’n mesur effeithlonrwydd economaidd. Mae’r dadansoddiad cost-effeithiolrwydd yn darparu’r gost i system iechyd ar gyfer pob uned effeithiolrwydd y mae’n ei chyflawni trwy raglen gwella ansawdd, tra bod enillion ar fuddsoddiad yn nodi faint o enillion ariannol y gall system iechyd eu cael o bob punt y mae’n ei buddsoddi mewn rhaglen gwella ansawdd. Nod y rhaglen hon yw cyflawni’r amcanion canlynol:

  • Gwerthuso cost-effeithiolrwydd a’r enillion ar fuddsoddiad gwahanol raglenni iechyd cyhoeddus mewn cydweithrediad ag arweinydd rhaglenni ar draws cyfarwyddiaethau o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r dystiolaeth a gynhyrchir o waith economeg iechyd yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddyrannu adnoddau iechyd yn effeithlon ac yn gyfiawnadwy i wahanol raglenni iechyd cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dosbarth Meistr Gwerth Cymdeithasol

Ym mis Ionawr 2024, cyflwynodd tîm Gwerth Cymdeithasol Sefydliad Iechyd y Byd ddosbarth meistr ar-lein ar y cysyniad o werth cymdeithasol a’i gymhwyso i wella dealltwriaeth ac asesiad o werth cyfannol ehangach iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn ategu’r gwaith ar Fuddsoddi Cynaliadwy ar gyfer Iechyd a Llesiant.


Amcanion penodol y dosbarth meistr hwn oedd:
• Hyrwyddo pwysigrwydd dal a mesur gwerth ehangach iechyd y cyhoedd.
• Gwella dealltwriaeth o pam mae gwerth a gwerth cymdeithasol yn bwysig trwy gyflwyno’r cyd-destun strategol a pholisi yng Nghymru a thu hwnt.
• Arddangos cymwysiadau ymarferol o sut y gellir dal gwerth cymdeithasol ymyriadau a gwasanaethau iechyd cyhoeddus.

Bu’r dosbarth meistr hefyd yn archwilio sut i fesur gwerth cymdeithasol drwy’r fframwaith Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI). Rhoddwyd y fethodoleg hon yn ei chyd-destun trwy dynnu ar astudiaeth sylfaenol yn ymwneud â sgrinio iechyd rhywiol mewn carchar agored yng Nghymru; yn ogystal ag enghreifftiau o adolygiadau llenyddiaeth o ymyriadau iechyd y cyhoedd ar hyd cwrs bywyd; Iechyd meddwl; a gweithgarwch corfforol a maeth.

FIDEO CYFLWYNIAD DOSBARTH MEISTR

DOLEN I SLEIDIAU DOSBARTH MEISTR Dosbarth Meistr Gwerth Cymdeithasol: Mesur gwerth iechyd cyhoeddus – Public Health Network Cymru (rhwydwaithiechydcyhoeddus.cymru)

Buddsoddiad Cynaliadwy mewn Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: Tuag at Iechyd Cyhoeddus ar sail Gwerth

Darllen mwy

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Lles a Thegwch Iechyd: Canllaw Ymarferol

Darllen mwy

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy ar gyfer Pobl Cymru

Darllen mwy

Buddsoddi mewn iechyd a lles: Adolygiad o’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o bolisïau iechyd y cyhoedd i gefnogi gweithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy adeiladu ar Iechyd 2020

Darllen mwy

Ysgogi Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles

Darllen mwy