Ym mis Mawrth 2018, dynodwyd Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant.
Mae Canolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd yn datblygu, casglu ac yn rhannu gwybodaeth ac offer ar ffordd orau o fuddsoddi mewn iechyd gwell, lleihau anghydraddoldebau, ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn yng Nghymru, Ewrop a ledled y byd. I gael rhagor o wybodaeth am Sefydliad Iechyd y Byd a’n gwaith, cliciwch yma (y tudalen gysylltiedig isod).
Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys dau is-adran sydd wedi’u cyfuno’n agos: Polisi Iechyd y Cyhoedd, ac Iechyd Rhyngwladol. Mae Uned Atal Trais Cymru, y Ganolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a’r timau Gweithredu Cynnar Aml-sectoraidd Gyda’n Gilydd hefyd yn cael eu cynnal gan Ganolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd. Gan weithio gyda Chyfarwyddiaethau eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’n partneriaid academaidd a phartneriaid eraill rydym yn helpu i sicrhau bod dysgu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar fuddsoddi mewn iechyd a llesiant ar gael ledled ein rhwydweithiau cenedlaethol a byd-eang ac yn cefnogi datblygiad y sgiliau sy’n angenrheidiol i ddefnyddio gwybodaeth o’r fath.
Uwch Dîm Rheoli Cyfeiriadur staff
I gael rhagor o wybodaeth am y Gyfarwyddiaeth, cysylltwch â ni:
Caerdydd
Llawr 5, Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Rhif 2 Capital Quarter,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ
Ffôn: +44 02920 227744
E-bost enquiries@wales.nhs.uk
Gwefan: phwwhocc.co.uk
Wrecsam
Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Tŷ Clwydian,
Parc Technoleg Wrecsam,
Wrecsam,
LL13 7YP
Ffôn: +44 0300 085 8290
E-bost enquiries@wales.nhs.uk
Gwefan: phwwhocc.co.uk