Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Cyfarwyddiaeth ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) wedi cyhoeddi ail adroddiad byr sy’n datod rhai o effeithiau cronnus Brexit, COVID-19 a newid hinsawdd ar iechyd a lles yng Nghymru. Yn dilyn ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’, mae’r Papur Sbotolau hwn yn canolbwyntio ar bwnc ‘Diogelwch Bwyd’.

Mae’r papur yn amlygu sut y bydd dylanwadau ar y cyd Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd yn effeithio ar bawb, o bosibl, trwy’r bwyd a gynhyrchir, y ceir mynediad iddo, sydd ar gael ac sy’n cael ei fwyta.

Mae’n llunio rhan o gyfres o adroddiadau sy’n amlygu sut y caiff yr ‘her driphlyg’ hon effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd a lles y boblogaeth. Yn ogystal, mae’n trafod sut mae’r cyfnod presennol yn gyfle i gryfhau negeseuon iechyd i’r cyhoedd ynghylch ymddygiad bwyd iach gyda’r proffil uwch y mae pandemig y Coronafeirws wedi’i roi i iechyd y cyhoedd ac amlygu effaith cynhyrchu, mynediad a chyflenwad bwyd mewn perthynas ag anghydraddoldebau.

Cael gwybod mwy…

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Ddiogelwch Bwyd