Ddydd Llun 21 Ionawr 2019, lansiodd y Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) adroddiad newydd yn Nhŷ’r Cyffredin o’r enw “”The State of the Union. Reuniting Health with Planning in Promoting Healthy Communities.” (ar gael yn Saesneg yn unig.) Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o effeithiolrwydd y cydweithio rhwng y sectorau cynllunio, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd.

Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys cipolygon gan bum cyngor yn Lloegr a hefyd gan Uned Gymorth Asesu’r effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ym mis Gorffennaf 2018 cynhaliodd WHIASU weithdy amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd ar y cyd â’r TCPA i gasglu gwybodaeth gan randdeiliaid lleol, a chyfrannodd y dystiolaeth a gasglwyd yn y gweithdy hwn at yr adroddiad terfynol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w weld yma(ar gael yn Saesneg yn unig).

Rhannu’r erthygl hon