Wedi’i gyhoeddi heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Brexit yn trafod effeithiau posibl Brexit ar iechyd tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru.

Mae’n tynnu sylw at sut y mae’n rhaid i iechyd corfforol a meddyliol y tlotaf, y rhai â chymwysterau addysgol is, y rhai sy’n cael eu cyflogi ym maes amaeth a gweithgynhyrchu sy’n agored i Brexit a’r rhai y mae angen iechyd a gofal cymdeithasol arnynt fod yn ystyriaethau allweddol wrth i’r paratoadau ar gyfer Brexit ddatblygu a pharhau i gael eu datrys hefyd ar ôl unrhyw gytundebau terfynol.Mae’r adroddiad, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechydyn trafod yn fanwl sut y gall pob agwedd ar broses Brexit effeithio ar iechyd. Mae’n ystyried y risgiau uniongyrchol i iechyd drwy effeithiau posibl ar fynediad i feddyginiaethau a staff iechyd a gofal cymdeithasol o wledydd Ewropeaidd ond hefyd sut y gall newidiadau mewn cyfleoedd cyflogaeth, straen ansicrwydd ar gyfer ffermio a chymunedau eraill, newidiadau posibl o ran hawliau cyflogaeth a rheoliadau safonau bwyd a marchnata nwyddau fel tybaco ac alcohol effeithio ar iechyd pobl ledled Cymru. Nid yw’r adroddiad yn mynd i’r afael â chanlyniadau unrhyw ganlyniad Brexit penodol ond mae’n ystyried y niwed a’r manteision posibl y gellid eu cael o unrhyw broses Brexit. Mae symud i ffwrdd o systemau Ewropeaidd presennol sy’n sail i amaethyddiaeth a buddsoddi mewn rhanbarthau difreintiedig o Gymru yn darparu cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchu bwyd gwell, mwy cynaliadwy a sicrhau bod plant ac oedolion sy’n byw mewn tlodi yn cael cymorth digonol i ddiogelu eu iechyd. Fodd bynnag, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod iechyd unigolion a chymunedau agored i niwed yn ystyriaeth ganolog o ran sut y mae Brexit yn cael ei ddatrys. Mae’r adroddiad yn galw am sicrhau bod deddfwriaeth unigryw Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cefnogi llesiant cynaliadwy, teg a hirdymor, yn ystyriaeth allweddol o ran dull Cymru tuag at Brexit a’i ganlyniadau parhaus. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd hefyd yn nodi materion iechyd a allai effeithio ar y boblogaeth gyfan gan gynnwys sicrhau diogelu rheoliadau iechyd cyhoeddus, neu eu cryfhau, ar dybaco, bwyd, ac alcohol a sicrhau nad yw camau diogelu o’r fath yn cael eu gwanhau gan newidiadau o ran deddfwriaeth, rheoleiddio neu gytundebau masnach yn y dyfodol. Mae ystyriaethau iechyd ehangach eraill a gynhwysir yn yr asesiad yn ystyried effeithiau’r canlynol ar iechyd:

  • Gostyngiad neu oedi o ran mynediad i feddyginiaethau newydd, treialon clinigol a dyfeisiau yn sgil y DU yn gadael cyrff rheoleiddio a chydlynu allweddol
  • Llai o allu o ran diogelu iechyd am na fydd y DU yn cyfranogi mewn systemau cydlynu iechyd cyhoeddus allweddol a dulliau rhannu tystiolaeth
  • Effeithiau ar recriwtio a chadw gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU a Chymru
  • Colli neu leihau mynediad i gyllid yr UE yn y dyfodol ar gyfer ymchwil a datblygu, seilwaith, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a thlodi a datblygu economaidd
  • Effeithiau ar iechyd meddwl a llesiant o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch dyfodol yr economi a chyflogaeth.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i’r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud ar ein perthynas ag Ewrop, mae’n hollbwysig ein bod yn ystyried sut y byddant yn effeithio ar iechyd ein pobl ac yn enwedig iechyd y rhai sy’n agored i salwch opherwydd eu dibyniaeth ar ofal iechyd, lefelau isel o incwm neu gyflogaeth mewn sectorau sydd mewn perygl drwy’r broses Brexit. Bydd newidiadau o ran ffyniant Cymru yn effeithio fwyaf ar unigolion a chymunedau o’r fath. Nid yw’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd hwn yn fap ffordd drwy Brexit ond mae’n rhestr wirio i’r rhai sy’n llywio drwy’r broses er mwyn sicrhau bod iechyd a llesiant pobl Cymru yn cael eu hystyried ar bob adeg.” Meddai Liz Green, Prif Swyddog Datblygu Asesu’r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae rhagfynegi canlyniadau iechyd yn gymhleth ac yn anodd, hyd yn oed yn fwy yng nghyd-destun yr ansicrwydd ynghylch y broses Brexit. Nid yw’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn ddadansoddiad o’r math o sefyllfa Brexit y dylai’r DU geisio ei mabwysiadu. Mae’n ymwneud â llywio penderfyniadau felly pan fydd cyrchfan wedi’i ddewis gellir ei gyrraedd gyda’r niwed lleiaf posibl a’r manteision mwyaf i iechyd. Serch hynny, bydd yr adroddiad hwn yn rhoi digon i sefydliadau yng Nghymru feddwl amdano.  Mae’n tynnu sylw at yr angen am gamau gweithredu er mwyn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd ar gyfer gwella iechyd a llesiant yng Nghymru ar ôl Brexit, yn ogystal â lliniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol neu ganlyniadau anfwriadol.” Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn broses a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n cynorthwyo asesiad sefydliadau o’r canlyniadau posibl ar eu penderfyniadau, polisïau, cynlluniau neu gynigion ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd yn defnyddio tystiolaeth feintiol ac ansoddol o lenyddiaeth, gwybodaeth iechyd a data demograffig arall, a chan amrywiaeth o arbenigwyr. Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd goblygiadau Brexit o ran iechyd cyhoeddus yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor er mwyn galluogi datblygu cynlluniau sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru; cynorthwyo sefydliadau (ar draws sectorau) a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru; a llywio’r amgylchedd gwneud polisi cyffredinol. 

Dolenni: 

Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd – Crynodeb
Gweithredol.Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd – Adroddiad Llawn
The Public Health Implications of Brexit in Wales: A Health Impact Assessment Approach. Technical Report Part 1.
The Public Health Implications of Brexit in Wales: A Health Impact Assessment Approach. Technical Report Part 2.