Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ym maes cynllunio gofodol gyda chydweithwyr ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl wrth adfer o bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn digwyddiad ‘Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol’ sy’n edrych ar sut i gydgysylltu cynllunio ac iechyd a sicrhau’r adferiad mwyaf posibl o COVID-19. Bydd y digwyddiad yn darparu rhai ffyrdd ymarferol o wneud hyn a datblygu argymhellion o’r adroddiad hwn.

Nod yr adroddiad hwn yw amlygu effeithiau iechyd cadarnhaol a negyddol polisïau cynllunio gofodol yn ystod y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru, dysgu o’r rhain, unrhyw ymyriadau cadarnhaol a chyd-fanteision er mwyn siapio amgylchedd mwy iach i bawb yn y dyfodol.

Mae’n dangos y gall cyfranogiad cynnar a gweithio cydgysylltiedig ar draws sawl disgyblaeth helpu i fynd i’r afael â’r heriau rhyng-gysylltiedig sydd wedi dod i’r amlwg a dyfnhau ers y pandemig, ac y dylai’r dull hwn gael ei weithredu ar sail Cymru gyfan.

Mae ‘Sicrhau’r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl ar gyfer cynllunio gofodol yn yr adferiad o bandemig COVID-19’ yn rhan o gyfres o adroddiadau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol.

Cael gwybod mwy…