O ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr UE, bydd y DU yn datblygu ei bolisi masnach annibynnol am y tro cyntaf ers mwy na 40 mlynedd. Mae goblygiadau sylweddol yn ymwneud â hyn i ystod o benderfynyddion iechyd a llesiant yng Nghymru yn cynnwys safonau bwyd, diogelu’r amgylchedd, rheoliadau tybaco ac alcohol, yn ogystal ag amodau economaidd a gwaith.

Cynhaliodd WHIASU weithdy a dosbarth meistr gyda rhanddeiliaid aml-asiantaeth ar 7 Tachwedd 2019 fel rhan o weithredu camau Adroddiad Prif Ganfyddiadau Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd (2019). Un argymhelliad o’r HIA oedd y dylai’r system iechyd y cyhoedd ystyried sut i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a gallu i sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hystyried yn flaenllaw wrth ddatblygu polisi masnach newydd.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Tracey Cooper, a’i nod oedd datblygu a rhannu gwybodaeth am yr amgylchedd polisi masnach newydd a’i oblygiadau posibl i iechyd a llesiant yng Nghymru a hefyd i archwilio’r ffordd y gall system iechyd y cyhoedd ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu polisi masnach newydd.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys gwneuthurwyr polisïau, academyddion ag arbenigedd mewn effaith masnach ar iechyd y boblogaeth ac anghydraddoldebau, iechyd y cyhoedd

Cliciwch yma am gopi o’r agenda.

Cyflwyniadau

Cyflwyniadau ar gael yn Saesneg yn unig

Nodiadau Trafod

Nodiadau trafod ar gael yn Saesneg yn unig.

Ystyriodd y cyfranogwyr y cwestiynau canlynol hefyd mewn trafodaethau bord gron:

  • Beth yw’r blaenoriaethau iechyd a llesiant i Gymru y mae angen eu hystyried wrth i bolisi masnach newydd ddatblygu?
  • Pa rwydweithiau ac arbenigedd sy’n bodoli yng Nghymru a allai gefnogi’r agenda hon?
  • A oes angen i ni wneud mwy i ddatblygu ein gallu i ymgysylltu a dylanwadu ar bolisi masnach yng Nghymru? Os felly beth sydd ei angen?
  • Pa offer, dulliau neu ymagweddau penodol dylid eu mabwysiadu i ddylanwadu ar bolisi masnach?

Gellir gweld nodiadau’r trafodaethau yma

Adnoddau a dolenni ychwanegol defnyddiol ar fasnach ac iechyd:

Adnoddau a dolenni ar gael yn Saesneg yn unig.

Cyfadran Iechyd y Cyhoedd (2019) Trafod polisi masnach “iach” ar gyfer y DU: Glasbrint ar gyfer ymagwedd iechyd y cyhoedd i gytundebau masnach ar ôl Brexit

PETRA cymuned arbenigol ryngddisgyblaethol, yn archwilio’r ffordd y gall masnach ryngwladol wella iechyd dynol ac atal clefydau anhrosglwyddadwy

Camau Nesaf

Bydd deall goblygiadau polisi masnach newydd a chytundebau ar iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru a meithrin gallu yn system iechyd y cyhoedd ar gyfer datblygu polisi masnach iach yn rhan barhaus o gynllun gwaith WHIASU ar gyfer 2020-21. Cysylltwch â [email protected] am fwy o wybodaeth.