18 Rhagfyr 2023

Adroddiad newydd: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd 

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, […]

19 Medi 2023

Crynhoad o Gyhoeddiadau Cyfnodolion a Llyfrau Diweddar gan Dîm Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU):

Isod mae crynodeb o gyhoeddiadau gan aelodau o dîm WHIASU nad ydym wedi’u cyhoeddi o’r blaen a allai fod o ddiddordeb ichi. Exploring the social value of Public Health Institutes: An international scoping survey and expert interviews (Saesneg yn unig) Mae dadlau dros fuddsoddi mewn iechyd y cyhoedd ataliol trwy ddangos nid yn unig yr […]

11 Gorffennaf 2023

Adroddiad newydd: Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor […]

14 Ebrill 2023

Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA)

Mae papur newyddiadurol newydd yn y BMJ, a gafodd ei gyhoeddi a’i gyd-awduro gan aelodau o dîm Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), yn ystyried goblygiadau iechyd penderfyniad y DU i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) Mae’r papur yn […]

12 Gorffennaf 2022

Adroddiad newydd: Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir. Dull Asesu Effaith Lles Meddyliol.

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru. Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio […]