Mae’r adroddiad – ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a thrwy hynny leihau llygredd aer, lleihau’r risg o ddigwyddiadau tywydd eithafol, cynhyrchu mwy o fwyd yn gynaliadwy a gwella iechyd meddwl a llesiant.

Mae yna effeithiau negyddol posibl hefyd, yn nhermau economaidd yn bennaf, fel colli cyflogaeth o bosibl mewn meysydd fel ailgylchu, llosgi, a safleoedd tirlenwi a dirywiad posibl o ran cyflogaeth bosibl yn y sector rheoli tirlenwi yn ystod y pontio o’r dull llinol presennol i system gylchol sy’n canolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio.

Ond byddai disgwyl i’r rhain fod yn gymharol tymor byr, gyda manteision mwy cadarnhaol yn cael eu gweld yn y tymor canolig i hirdymor.

Crynodeb Gweithredol

Adroddiad Cryno                                                    

Adroddiad Gwybodaeth Atodol (Saesneg yn unig)

Ffeithlun

Astudiaeth achos – Gwneud caredigrwydd yn weladwy: Siop Gyfnewid Menywod Abertawe

Cael gwybod mwy…