« Cyfeiriadur staff

Mae Ashley yn Ymgynghorydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen yr Uned Wyddor Ymddygiad newydd yn y Gyfarwyddiaeth. Yn flaenorol, ef oedd yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Tybaco ac roedd yn gyfrifol am arwain camau gweithredu yn strategol i leihau nifer yr achosion o ysmygu. Arweiniodd y gwaith o gysyniadoli, cyflwyno a gweithredu Helpa Fi I Stopio (gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu GIG Cymru), a chymhwysodd wyddor ymddygiad i gyfrannu at y twf 5 mlynedd yn olynol yng nghyfran yr ysmygwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn rhoi’r gorau iddi gyda chymorth y GIG. Yn ystod y pandemig, roedd ganddo rolau yn y system olrhain cysylltiadau cynnar a’r Gell Ymateb Genedlaethol i Ddiogelu Iechyd, ac ers Mehefin 2020 mae Ashley wedi bod yn canolbwyntio ar gymhwyso gwyddor ymddygiad i’r ymateb yng Nghymru. Mae’n Gyd-Gadeirydd Is-grŵp Cyfathrebu Risg a Newid Ymddygiad Cell Cyngor Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru. Cyn ymuno â’r GIG bu’n gweithio mewn llywodraeth leol a’r GIG yng Nghymru a Lloegr.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl