Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) yw’r gyntaf i’w sefydlu’n genedlaethol a chymhwyso fframwaith arloesol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Mae hyn yn cyflawni o ran Memorandwm Dealltwriaeth (MOU) (saesneg yn unig) rhwng Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO a Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gyflymu cynnydd tuag at adeiladu Cymru ac Ewrop iachach, mwy cyfartal a llewyrchus. Arweinir ei weithrediad gan Swyddfa Buddsoddi Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd yn Fenis, yr Eidal (Swyddfa Fenis) (saesneg yn unig) a Chanolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nod cyffredinol y WHESRi yw darparu darlun deinamig cyfoes o anghydraddoldebau iechyd, eu baich, penderfynyddion a pholisïau cysylltiedig yng Nghymru, er mwyn llywio atebion a blaenoriaethu buddsoddiad, yn ogystal â hwyluso deialog polisi a gweithredu ar draws llywodraeth gyfan a chymdeithas gyfan tuag at Gymru Iachach, Fwy Cyfartal a Llewyrchus.

Yn dilyn methodoleg arloesol WHO o fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewrop (HESRi) (saesneg yn unig), mae WHESRi yn cynnwys dwy ffrwd waith gyda chyflawniadau perthnasol dros gyfnod o dair blynedd (2020-2022):


1) Datblygu Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESR) ar gyfer Cymru, gan gynnwys dadansoddiadau data, polisi ac economaidd, gyda’r nod o lywio opsiynau ar gyfer gweithredu polisi a blaenoriaethu buddsoddiad i leihau anghydraddoldebau iechyd; a

2) Datblygu Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd digidol (HESP) ar gyfer Cymru, gan gynnwys dangosfwrdd rhyngweithiol a chyfres o offer ac adnoddau polisi, buddsoddi ac eraill i gefnogi a chyflymu bywydau ffyniannus iach i bawb yng Nghymru a chyfrannu at Blatfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Ewropeaidd.

Bydd cynhyrchion WHESRi yn bwydo i mewn ac yn helpu i weithredu’r Rhaglen Adeiladu Cymru Iachach a Rhaglen Trawsnewid Llywodraeth Cymru, gan lywio a hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau, datrysiadau polisi a buddsoddi mewn atal. Mae’r prosiect hwn hefyd yn cryfhau rôl Cymru fel dylanwadwr, gan ddarparu mewnwelediad i gymhwyso ac addasu HESRi Ewrop ar lefel gwlad tuag at weithredu Penderfyniad WHO ar gyflymu cynnydd tuag at fywydau iach, llewyrchus i bawb, cynyddu tegwch mewn iechyd a gadael neb ar ôl yn y Rhanbarth Ewropeaidd WHO.

Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru

Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) yn rhan allweddol o WHESRi. Mae prosiect WHESP yn datblygu porth ar-lein – neu blatfform – o wybodaeth ac offer arloesol i lywio a galluogi trosi tystiolaeth o ansawdd uchel i wneud penderfyniadau, polisi ac arfer gyda’r nod o sicrhau bywydau iach, llewyrchus i bawb yng Nghymru a thu hwnt. Bydd yn dwyn ynghyd y data sydd ar gael gyda pholisïau, economeg iechyd a modelu, a thystiolaeth i gefnogi atebion cynaliadwy i leihau annhegwch iechyd a gwella iechyd a llesiant.

Bydd WHESP yn cysylltu â set ddata Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Ewrop, gan ddarparu esiampl i wledydd a rhanbarthau eraill, i gefnogi Platfform a Chynghrair Datrysiadau Tegwch Iechyd Ewrop a gweithredu Penderfyniad Ewrop ar Degwch Iechyd y WHO.

Gallwch gael mynediad i’r WHESP yma: WHESP (platfformdatrysiadau.co.uk)

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu

Darllen mwy

Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi)

Darllen mwy

Buddsoddi mewn iechyd a lles: Adolygiad o’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o bolisïau iechyd y cyhoedd i gefnogi gweithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy adeiladu ar Iechyd 2020

Darllen mwy

Animeiddiadau WHESRi

Darllen mwy

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant

Darllen mwy

Animeiddiadau WHESP

Darllen mwy