Y DU fel canolfan fyd-eang ar gyfer iechyd a gwyddor iechyd – cyrchfan ar gyfer pob agwedd ar iechyd

Mae adroddiad diweddaraf y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Iechyd Byd-eang, o’r enw ‘Y DU fel canolfan fyd-eang ar gyfer iechyd a gwyddor iechyd – cyrchfan ar gyfer pob agwedd ar iechyd’ bellach ar gael i’w lawrlwytho.

Mae’r adroddiad newydd gan seneddwyr yn dadlau y gall y DU chwarae fwy o rôl mewn iechyd a gwyddor iechyd yn fyd-eang. Mae’r DU eisoes yn arweinydd mewn iechyd a’r gwyddorau cysylltiedig. Mae ganddi brifysgolion ac ymchwil o safon fyd-eang, mae’n arweinydd byd-eang mewn polisi iechyd a datblygu rhyngwladol, mae ganddi ddiwydiannau gwyddorau bywyd a biofeddygol a biodechnegol cryf, a sector dielw bywiog ac amrywiol.

Mae’r adroddiad hwn yn dadlau y dylai’r DU roi mwy fyth o flaenoriaeth i’r rôl hon ac y bydd cynllunio pellach, cydweithredu a buddsoddiad wedi ei dargedu yn galluogi’r DU i fod yn ganolfan wirioneddol fyd-eang ar gyfer iechyd a’r gwyddorau iechyd.

Mae’r adroddiad hwn yn dilyn ymlaen o adroddiad 2015 APPG ar gyfraniad y DU i iechyd yn fyd-eang, wnaeth fapio gweithgaredd y DU yn ymwneud ag iechyd mewn academia, llywodraeth, masnach a’r sector dielw. Mae’r adroddiad newydd yn ddiweddariad llawer byrrach sy’n disgrifio’r hyn sydd wedi newid ers hynny ac yn cydgrynhoi amgyffrediad rôl y DU mewn iechyd gan arbenigwyr yn y DU a’r tu allan.

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w lawrlwytho ar wefan APPG: http://www.appg-globalhealth.org.uk/ (Saesneg yn Unig)