Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC), a lansiwyd yn 2014, wedi datblygu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter).  Mae’r Siarter yn nodi’r gwerthoedd a’r egwyddorion cyffredin ar gyfer gwaith rhyngwladol ar draws y GIG, yn seiliedig ar bedair sylfaen ar gyfer partneriaethau llwyddiannus:

1.            Cyfrifoldebau Sefydliadol

2.            Gwaith Partneriaeth Cyfatebol

3.            Arfer Da

4.            Llywodraethu Cadarn

Ers sefydlu’r Siarter bum mlynedd yn ôl, mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau wedi bod yn cydweithio i ddatblygu eu rhaglenni rhyngwladol presennol a chyflwyno dulliau ar gyfer gweithio y tu hwnt i ffiniau Cymru mewn ffyrdd effeithiol a phriodol.  Yn 2019, i ddathlu pum mlynedd lwyddiannus ers lansio’r Siarter, mae’r IHCC a’u partneriaid ar draws Cymru wedi lansio Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter, casgliad o offer ac adnoddau a grëwyd i ddarparu cymorth i GIG Cymru a’i randdeiliaid i gyflawni eu nodau gofal iechyd rhyngwladol.

Datblygwyd Pecyn Cymorth y Siarter o’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y daith, gan gasglu enghreifftiau o arfer gorau a darparu fframwaith cadarn ar gyfer llywodraethu i gefnogi gweithgaredd iechyd rhyngwladol. Bydd y Pecyn Cymorth, a ddyluniwyd fel ‘dogfen fyw’, yn cael ei ddiweddaru gyda dogfennau newydd a diwygiedig yn ôl yr angen, gan gyfoethogi a datblygu’r casgliad o offer a chynorthwyo llofnodwyr y Siarter i weithredu egwyddorion y Siarter yn llwyddiannus a chyson.

Mae’r Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter ar gael trwy ddilyn y ddolen isod:

http://phwwhocc.co.uk/ih/wp-content/uploads/sites/4/2021/06/Charter_for_Int_Health_Toolkit_Welsh.pdf