Datblygwyd tiwtorial ar-lein Solihull Approach, ‘Understanding your child’ gan dîm proffesiynol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Athrofaol Birmingham, gydag adnoddau gan Ysgol Feddygol Harvard.

Mae wedi ei anelu at rieni, neiniau a theidiau a gofalwyr plant, ac yn ceisio gwella eu dealltwriaeth o ddatblygiad eu plentyn, yn ogystal a gwella chydberthynas. Mae’n canolbwyntio ar y cyswllt rhwng teimladau ac ymddygiad, ar gyfer yr oedolyn a’r plentyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cynllun peilot o’r adnodd hwn yn Arabeg, wedi ei anelu at rieni sy’n ceisio noddfa (ffoaduriaud neu geiswyr lloches). Bydd y cynllun peilot yn gwerthuso derbynioldeb cynnwys a fformat y cwrs ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n ceisio noddfa. Mae hyn am ein bod yn cydnabod yr angen am gymorth rhianta ar gyfer rhieni a phlant sy’n wynebu heriau ychwanegol, fel adferiad ar ôl trawma, rhwystrau iaith, addasu i ddiwylliant newydd.  Rydym yn gweithio gyda GIG Heart of England i werthuso llwyddiant y cynllun peilot hwn yn cyrraedd rhieni sy’n ceisio noddfa a’r effaith y mae’n ei gael arnynt.

Mae’n cynnwys 11 modiwl ar themâu gwahanol.  Mae’r rhain yn berthnasol i blant o bob oed.  Mae’r prif negeseuon yn cynnwys:

  • Datblygiad yr ymennydd, cysylltiadau â cherrig milltir ymddygiad a datblygiadol
  • Cydnabod teimladau plentyn yn seiliedig ar eu hymddygiad
  • Effaith teimladau rhieni/gofalwyr ar eu hymddygiad a’r effaith ar deimladau ac ymddygiad eu plentyn o ganlyniad i hynny
  • Ystod o arddulliau rhianta
  • Cyfathrebu mewn sefyllfaoedd heriol
  • Chwarae fel offeryn pwysig ar gyfer dysgu, datblygu cydberthynas a mynegi teimladau
  • Cwsg: pwysigrwydd dysgu’r plentyn i allu mynd yn ôl i gysgu eu hunain, mynd i’r afael â materion o’r diwrnod a allai effeithio ar eu cwsg, a sicrhau arferion cysgu da

Rydym yn gweithio gyda phobl sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sydd yn ceisio noddfa, fel sefydliadau trydydd sector a nyrsys lloches sydd yn gweithio ym mhrif ganolfannau gwasgaru Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd.  Rydym hefyd wrthi’n edrych am ffyrdd eraill o ledaenu’r adnodd.  Rydym hefyd yn darparu deunydd hyrwyddo yn Arabeg ar gyfer defnyddwyr.

Cynhelir y cynllun peilot hyd at fis Mehefin 2020 a bydd yn llywio argaeledd adnoddau mewn ieithoedd a fformatiau gwahanol ar gyfer rhieni sy’n ceisio noddfa.