Lleoliad: Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, y Coldra, Catsash Rd, Caerllion, Casnewydd NP18 1HQ

Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Siarter Dathlu Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol a’r digwyddiad i ail-ymrwymo yn cael ei gynnal ar 17 Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng ngwesty’r Celtic Manor mewn cydweithrediad â Chynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r gynhadledd yn gyfle i archwilio effaith y Siarter ar iechyd rhyngwladol GIG Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf.  Mae ein rhaglen yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd a gofynnwn yn garedig i chi gadw’r dyddiad hwn yn y calendr.

Dilynwch y cyswllt isod i gael rhagor o wybodaeth am y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol:

https://phwwhocc.co.uk/ih/our-work/the-international-health-coordination-centre-ihcc/ (Saesneg)

https://phwwhocc.co.uk/ih/our-work/the-international-health-coordination-centre-ihcc/?lang=cy (Cymraeg)