Sicrhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru le ar Fwrdd EuroHealthNet er mwyn gallu cryfhau a datblygu ein cydweithrediad a’n partneriaeth â gwledydd, rhanbarthau, sefydliadau a rhwydweithiau ar draws yr Undeb Ewropeaidd ymhellach.  Daeth Dr Mariana Dyakova, sef Arweinydd Iechyd Rhyngwladol, yn aelod o’r Bwrdd yn lle Malcolm Ward a chyflwynodd hefyd bortffolio Canolfan Cydweithredol WHO o’r gwaith a’r cynnyrch ar ddod – gan hyrwyddo’r broses o fuddsoddi mewn iechyd, tegwch a datblygiad cynaliadwy.

Bu i’r Cyngor Cyffredinol feithrin Datganiad y Cyfarfod ac Adroddiad Blynyddol EuroHealthNet 2018 – 2019: Pathways to Sustainability, sy’n canolbwyntio ar: Sut y gallwn gynnwys y cysyniad o gynaliadwyedd mewn polisïau, arferion ac ymchwil iechyd y cyhoedd?  Sut i gael cyllid cynaliadwy er mwyn hyrwyddo ac atal iechyd? A beth sydd angen ei wneud er mwyn creu partneriaethau cynaliadwy a chreu dyfodol iachach a thecach i bawb?

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn:

https://eurohealthnet.eu/ (saesneg yn unig)

https://eurohealthnet.eu/publication/eurohealthnet-general-council-meeting-statement-june-2019 (saesneg yn unig)

https://eurohealthnet.eu/media/news-releases/annual-report-2018-2019-pathways-sustainability (saesneg yn unig)