Ym mis Mawrth 2018, neilltuodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ganolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyma’r gyntaf yn y byd yn y maes arbenigedd hwn, gan ymuno â rhwydwaith o fwy nag 800 o ganolfannau cydweithredu mewn dros 80 o wledydd.  Mae’n canolbwyntio ar y ffordd orau o fuddsoddi mewn iechyd gwell, lleihau anghydraddoldebau a datblygu cymunedau a systemau cryfach yng Nghymru, Ewrop ac yn fyd-eang, tra’n ysgogi cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a ffyniant i bawb.

Mae WHO CC yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad yn Fenis, yr Eidal (Swyddfa Fenis), i gyflawni bywydau iach a ffyniannus i bawb. Cafwyd ymweliad ffurfiol i Gymru gan Swyddfa Fenis WHO (Chris Brown, Pennaeth, Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad a Tatjana Buzeti, Swyddog Polisi, Ymagweddau Aml-sector ar gyfer Tegwch Iechyd, Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad) ar 8 a 9 Ebrill yng Nghaerdydd.

Roedd gan Ddirprwyaeth WHO raglen gyfoethog, yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru; y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg. Fe wnaethant gyfarfod â’r Cyfarwyddwr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr y GIG hefyd; Prif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru / Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru; yn ogystal â phartneriaid traws-sector, fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru.

Mae’r ymweliad wedi codi proffil Cymru ac wedi ein gosod fel gwlad Ewropeaidd flaenllaw, gan ddangos ein hymrwymiad gwleidyddol, ein harloesi deddfwriaethol a pholisi, ein gweithrediad ymarferol a’n harbenigedd gwyddonol o ran cyflawni bywydau iach a ffyniannus i bawb. Mae’r synergedd rhwng agendâu iechyd a thegwch Cymru a WHO Ewrop wedi cael ei gydnabod, gan greu mwy o gyfleoedd. Mae Cymru wedi cael gwahoddiad i fod yn un o’r ychydig wledydd ‘dylanwadu’, sydd yn rhan o Gynghrair Ewropeaidd a Llwyfan Atebion ar gyfer Tegwch Iechyd, yn datblygu a phrofi arloesi polisi a llywodraethu byw; ac ysbrydoli gwledydd eraill. Hefyd, mae gan Gymru y cyfle i fod yn un o’r gwledydd cyntaf i gynnal peilot o fethodoleg Adroddia Statws Tegwch Iechyd (HESR), a ddatblygwyd gan WHO a darparu data, dadansoddiadau polisi ac argymhellion wedi eu teilwra’n gadarn ynghylch sut i ddatblygu tegwch iechyd.

Gwahoddir Cymru hefyd i gael rôl ganolog yng Nghynhadledd Ewropeaidd Tegwch Iechyd Lefel Uchel WHO yn Slofenia, Ljubljana, ym mis Mehefin; a 69ain Pwyllgor Rhanbarthol WHO ar gyfer Ewrop yn Denmarc, Copenhagen ym mis Medi. Bydd y ddau achlysur yn gyfle i arddangos ymrwymiad Cymru a’r cynnydd tuag at lesiant pobl, tegwch a datblygu cynaliadwy; a chefnogi Penderfyniad Ewropeaidd cyntaf WHO ar Fywydau Iach a Ffyniannus i Bawb.