Ar 3 Ebrill, daeth dros gant bobl ynghyd yn y Senedd i ddathlu pa mor bell y mae Cymru wedi dod ar ei thaith i fod yn ‘genedl noddfa’.  Roedd y rheiny â fynychodd yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad, uwch weithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr y trydydd sector, pobl sydd yn ceisio noddfa a gwirfoddolwyr sydd yn gysylltiedig â mentrau croeso lleol.

Mae’r weledigaeth o Gymru fel ‘cenedl noddfa’ yn un o wlad lle mae pobl sydd yn ceisio noddfa yn canfod pobl sy’n eu croesawu, yn deall pam y maent yma, yn eu cefnogi ac yn bwysicach, yn eu cynnwys fel cyfranogwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau, ble bynnag y byddant yn mynd.

Yn ogystal â phedair ardal lledaenu lloches (Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam) mae pob awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi adsefydlu teuluoedd sydd wedi ffoi o Syria. Mae gan Gymru sawl dinas noddfa gydnabyddedig, yn cynnwys Abertawe, Caerdydd a Wrecsam, gyda’r nod o fod yn ‘fannau croesawgar o ddiogelwch i bawb’, ac yn arbennig ‘yn falch o gynnig noddfa i bobl sydd yn ffoi rhag trais ac erledigaeth’. Mae grwpiau noddfa lleol dirifedi eraill yn gweithio gyda sefydliadau fel ysgolion, prifysgolion, amgueddfeydd a hyd yn oed ‘Siop Noddfa’. Mae mentrau newydd i greu mannau noddfa lleol yn ymddangos drwy’r amser.

Dangosodd y digwyddiad Noddfa yn y Senedd, wedi ei gydlynu gan Glyblaid Ffoaduriaid Cymru, a’i gyflwyno mewn partneraieth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru Cymru Well Wales, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y ffordd y mae Cymru’n cefnogi’r gwaith o integreiddio ceiswyr noddfa waeth sut gwnaethant gyrraedd y wlad nac o ble y maent wedi dod.

Cyflwynwyd yr adroddiad Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru gan Dr Gill Richardson (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a Dr Ashra Khanom (Prifysgol Abertawe). Mae’r adroddiad yn dangos cyfraniad gwasanaethau iechyd, yn arbennig gwasanaethau nyrsio ceiswyr lloches, tuag at lwyddiant yn integreiddio a chefnogi pobl sydd yn ceisio noddfa yng Nghymru.

Derbyniodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, y ‘map Cenedl Noddfa’ (llun), a grëwyd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd gyda negeseuon o groeso yn Gymraeg ac ieithoedd eraill, gan Jose Cifuentes, ffoadur gwleidyddol o Chile.

Gan siarad yn y digwyddiad, dathlodd Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, ddyfodiad dros 1000 o ffoaduriaid i Gymru trwy raglenni adsefydlu a diolchodd i’r partneriaid sydd wedi gwneud hyn yn llwyddiant.

Dywedodd: “Y prawf heddiw yw dysgu oddi wrth ein gilydd yr hyn y gellir ei wneud i wella cymorth ar gyfer pobl sydd yn ceisio noddfa yng Nghymru.  Yr hyn sy’n ein huno yw dymuniad i wella’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.  Mae dod yn Genedl Noddfa yn gyfrifoldeb i bawb yng Nghymru.”

Mae Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru, yn nodi nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt, fydd yn gwella’r cymorth i bobl sydd yn ceisio noddfa yng Nghymru.  Cyflwynwyd y Cynllun trwy ymgynghoriad gyda thros 100 o bobl sydd yn ceisio noddfa a llawer o sefydliadau sydd yn gweithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyda’r grŵp hwn. Mae’r camau’n ymwneud ag iechyd yn cynnwys lleihau’r rhwystrau i ofal iechyd ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, sefydlu mecanweithiau i hybu rhannu arfer da ar gyfer canlyniadau iechyd gwell ar gyfer pobl sydd yn ceisio noddfa a lleihau mynychder cyflyrau iechyd meddwl ymysg y grŵp hwn.

Mae argymhellion adroddiad Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru yn cefnogi’r camau yn y Cynllun hwn, gydag argymhellion penodol ar lythrennedd iechyd, iechyd meddwl a gweithio’n gydweithredol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi dechrau datblygu modiwl e-ddysgu ar gyfer staff GIG Cymru, gan ymateb i’r canfyddiad y byddai hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol ar y materion cymdeithasol a chyfreithiol sy’n effeithio ar bobl sydd yn ceisio noddfa yn gwella’r cymorth ar gyfer pobl sydd yn ceisio noddfa mewn lleoliadau iechyd a llesiant.

Dywedodd Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
 
“Mae iechyd a llesiant yn rhan hanfodol o Gynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru. Gwyddom o’n hadroddiad, Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru, fod pobl sydd yn ceisio noddfa yn wynebu llawer o heriau o ran cael iechyd da a mynediad at ofal iechyd. Mae gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd yng Nghymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hyn er mwyn sicrhau bod pobl sydd yn ceisio noddfa yn cael yr un cyfleoedd i gael iechyd da â phobl eraill yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd ar hyn.’

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i fynychwyr ymgysylltu ag ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE) a chanfod mwy am y ffordd y gallai pobl sydd yn ceisio noddfa gael eu cefnogi’n well trwy bolisi ac ymarfer sy’n wybodus am drawma. Cyhoeddodd Cyfawyddwr Hyb Cymorth ACE y byddant yn gweithio gyda Clearsprings Ready Homes, y darparwr llety yng Nghymru ar gyfer y rheiny sydd yn aros am ganlyniad eu cais am loches, i gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o drawma i staff sydd yn gweithio gyda cheiswyr lloches.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol glywed mwy am adroddiad Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid ac yn trafod y camau nesaf mewn digwyddiad rhanddeilliaid ar Ddydd Mercher 22 Mai. Bydd mwy o fanylion ar gael maes o law – i gofrestru eich diddordeb, anfonwch ebost at Rebecca Scott yn rebecca.scott2@wales.nhs.uk.

Crynodeb Gweithredol o astudiaeth HEAR

Adroddiad Technegol astudiaeth HEAR