Ar drothwy blwyddyn ysgol newydd, mae astudiaeth newydd wedi darganfod effaith trawma cynnar ar addysg plant a’u rhagolygon ar gyfer iechyd da yn y dyfodol. Fel rhan o’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMC Public Health, siaradwyd ag oedolion yng Nghymru am eu cysylltiad â chamdriniaeth yn ystod plentyndod a mathau eraill o drawma cynnar megis trais domestig yn y cartref ble y cawsant eu magu. Gelwir y mathau hyn o drawma yn Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Dywedodd awdur yr adroddiad, yr Athro Mark Bellis o Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru:“Rydym eisoes wedi dangos sut y gall trawma yn ystod plentyndod arwain at iechyd gwael pan fyddwn yn oedolion, ond mae’r gwaith ymchwil hwn yn dangos sut mae plant sy’n cael mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd yn dioddef o iechyd gwael pan fyddant yn blant a lefelau uwch o broblemau iechyd cyffredin megis cur pen, asthma a phroblemau treulio. “Nid yw cyflyrau o’r fath fel arfer yn rhai sy’n rhoi bywyd yn y fantol, ond gallant gael effaith sylweddol ar ddatblygiad corfforol, cymdeithasol ac addysgol plant.  Yn hollbwysig, gwelsom fod plant sy’n dioddef o lefelau uchel o galedi yn ystod plentyndod saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn absennol o’r ysgol am fwy nag 20 diwrnod y flwyddyn.” Yn gyffredinol, o gymharu ag unigolion sydd heb gael unrhyw ACEs yn ystod plentyndod roedd y rhai â phedwar ACE neu fwy:

  • saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn absennol o’r ysgol yn aml
  • bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael yn ystod plentyndod
  • bedair gwaith yn fwy tebygol o gael problemau treulio yn ystod plentyndod
  • dair gwaith yn fwy tebygol o gael cur pen yn ystod plentyndod
  • dair gwaith yn fwy tebygol o gael asthma yn ystod plentyndod
  • ddwywaith yn fwy tebygol o gael alergeddau yn ystod plentyndod

Canfu’r astudiaeth hefyd elfennau yn ystod plentyndod sy’n helpu i amddiffyn plant rhag y canlyniadau niweidiol hyn, hyd yn oed os byddant yn dod i gysylltiad ag ACEs. Meddai yr Athro Karen Hughes o Iechyd Cyhoeddus Cymru:“Dywedodd 60% o bobl a gafodd fwy nag un ACE ond nad oedd ganddynt asedau megis ffrindiau cefnogol a modelau rôl fod eu hiechyd yn wael yn ystod eu plentyndod. Fodd bynnag, gostyngodd hyn i 21% ymysg y rhai a gafodd fwy nag un ACE ond a gafodd gymorth o’r fath.” Mae dylanwad cadarnhaol ffrindiau, oedolion y gellir ymddiried ynddynt, cymunedau ac ysgolion ar blant yn creu gwytnwch a’r gallu i oresgyn caledi difrifol fel y rhai sy’n deillio o ACEs. Yn ogystal ag iechyd gwell yn gyffredinol yn ystod plentyndod, roedd unigolion sydd â mynediad i fwy o ffynonellau cadarn yn llai tebygol o fod yn absennol o’r ysgol, cael cur pen a phroblemau treulio. Ac i gloi dywedodd yr Athro Bellis:“Mae plant yn aml yn dioddef trawma cymhleth yn sgil profiadau niweidiol ac yn datblygu gwytnwch yn sgil y cymorth a’r cyfleoedd cadarnhaol a gynigir gan gymunedau.  Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i roi cyngor ymarferol ar sut i ddileu trawma yn ystod plentyndod lle bynnag y bo’n bosibl a sut i ychwanegu at yr asedau cymunedol hynny sy’n creu gwytnwch – yn arbennig i’r plant hynny sydd eu hangen fwyaf. Dylai’r llwyddiant nid yn unig greu plant hapusach sy’n byw’n iachach ond hefyd arwain at gyrhaeddiad addysgol gwell a gwell rhagolygon economaidd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o ganlyniad i hynny.” 

Dolenni

Papur llawn y BMC (saesneg yn unig)
Ffeithlun