Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn amlygu ei chyflawniadau yn cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru.

Mae Adroddiad Cynnydd diweddaraf yr IHCC yn amlinellu gwaith, cynnydd a chyflawniadau o 2015 i 2017 a wnaed gan yr IHCC a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru yn y maes hwn. Mae hefyd yn dangos sut mae’r IHCC wedi esblygu mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, y DU, cenedlaethol a lleol. Mae rhai o’r prif gyflawniadau o’r ddwy flynedd diwethaf yn cynnwys:

  • Meincnodi gweithredu’r Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru, gan fesur cynnydd a nodi strategaethau llwyddiannus ar gyfer gweithredu’n ehangach
  • Cryfhau rôl Grŵp Gweithredu’r Siarter i arwain ar ddatblygu a lledaenu arfer gorau tra’n cyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth genedlaethol
  • Datblygu a chryfhau partneriaethau gyda sefydliadau iechyd ar draws y byd, gan hwyluso cydweithredu rhyngwladol a chreu incwm ar draws y GIG

Dywedodd Dr Gill Richardson, Cadeirydd Grŵp Gweithredu’r Siarter a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil Polisi a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Daw cymorth ar gyfer cyfranogiad iechyd byd-eang o’r lefel uchaf posibl yng Nghymru, ac mae wedi ei ardystio gan Brif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Mae’r gweithgaredd y mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn gysylltiedig ag ef yn ysbrydoli, o’r rheiny sydd yn ymweld, y rheiny sy’n cefnogi o Gymru, a’r rheiny sydd yn derbyn ymwelwyr rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at gynnal y momentwm hwn wrth i ni gydweithio i gyflawni nodau’r Siarter yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r IHCC yn cefnogi agweddau Cyfrifol yn Fyd-eang o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn cynorthwyo Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a chyfnewid rhyngwladol, gwaith partneriaeth ar y ddwy ochr ac arfer da. Amlygodd Adroddiad Cynnydd cyntaf IHCC gyflawniadau sylweddol yn ystod ei ddwy flynedd cyntaf o waith (2013-15).

Esboniodd Dr Richardson: “Mae’r IHCC wedi gwneud cynnydd sylweddol yn datblygu dysgu rhyngwladol ac arfer da yng Nghymru, i gyd wedi ei gyflawni heb lawer o adnoddau.

“Gan weithio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, mae’r IHCC wedi canolbwyntio ei waith ar y pedwar blaenoriaeth a nodwyd gan y Siarter: cyfrifoldebau sefydliadol; gwaith partneriaeth ar y ddwy ochr; arfer da; a llywodraethu cadarn.”

Wedi ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r IHCC yn dod â holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau  GIG Cymru, Conffederasiwn y GIG a phartneriaid allweddol ynghyd yn cynnwys Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica i ffurfio llwyfan unigryw ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid gwybodaeth, cydweithredu a rhwydweithio. Mae’r cyfrifoldebau a roddir ar Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn unol â Nod Cyfrifoldeb Byd-eang Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn dwyn gwaith yr IHCC ymlaen.

Aeth Dr Richardson ymlaen: “Wrth i weithredu’r Siarter fynd yn ei flaen, bydd yn hanfodol i’r IHCC a’n partneriaid cydweithredol gynnal momentwm i gyflawni nodau’r Siarter.

“Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd yr IHCC yn cydgrynhoi ei gyflawniadau yn gweithredu’r Siarter.  Byddwn hefyd yn chwilio ac yn creu cyfleoedd newydd i gynyddu amlygrwydd a dylanwad Cymru o fewn a thu hwnt i’n ffiniau, yn cynnwys cysylltu â GIG yr Alban yn ymwneud â’i hagenda Dinasyddiaeth Fyd-eang gyffrous“, dywedodd.

Mae’r IHCC, a sefydlwyd yn 2013, wedi datblygu rhwydwaith cenedlaethol cryf o randdeiliaid, wedi meithrin cysylltiadau â phartneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol, ac mae’n ysgogi gwelliannau i iechyd yng Nghymru a thramor.

Yng Nghymru, addawodd Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i weithredu’r Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yn 2014. Mae Grŵp Gweithredu’r Siarter yn goruchwylio cynnydd ac yn cynnwys cynrychiolwyr o bob corff. Mae hyn yn sicrhau arweinyddiaeth gref a chydweithredu trwy gyfnewid gwybodaeth a phrofiad, datblygiad cynnyrch ar y cyd a datblygu a chryfhau partneriaethau iechyd a chyfnewidfeydd dysgu rhyngwladol.

I ddarllen neu lawrlwytho adroddiad cynnydd yr IHCC 2015-2017.