Ar 17–19 Ionawr 2017, galwodd WHO Ewrop gyfarfod cyntaf y Gweithgor Iechyd a Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) Arbenigol gyda’r nod o gynorthwyo Ysgrifenyddiaeth WHO i ddrafftio’r map ffordd.  Cynhaliwyd y cyfarfod yn Swyddfa Ewropeaidd WHO dros Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal.

Amlygodd y cyfranogwyr bwysigrwydd SDG yn cyflawni iechyd a lles, a’r newid o ran patrwm oedd angen i gyrraedd targedau’r SDG. Mae angen i newid o’r fath ganolbwyntio’n benodol ar: lywodraethu a gweithredu rhyng-sectoraidd ar gyfer iechyd; gadael neb ar ôl; alinio datblygiad cenedlaethol a pholisïau iechyd, yn ogystal ag eglurder polisi ar draws SDG lluosog; ac ar ddulliau gweithredu. Mae’r olaf yn cynnwys partneriaethau, ariannu cynaliadwy, ymchwil ac arloesi, a monitro ac atebolrwydd gwell.

Bydd y map ffordd drafft ar gael ar-lein ar gyfer ymgynghoriad yng nghanol mis Chwefror 2017. Caiff y map ffordd ei gyflwyno i’w ardystio yn y sesiwn nesaf o’r Pwyllgor Rhanbarthol ym mis Medi 2017.

Am fwy o wybodaeth ewch i  wefan WHO EURO. (Saesneg yn unig)