Mae Is-adran Datblygu Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r ail mewn cyfres o gatalogau cyllid, yn cysylltu cyfleoedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE) â blaenoriaethau iechyd a lles Cymru.

Mae’r gyfres o gatalogau yn rhan o waith y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gael cyllid yr UE ar draws GIG Cymru.

Roedd y catalog cyntaf (Saesneg yn unig) yn cynnwys Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, ac mae’r ail gatalog (Saesneg yn unig) yn archwilio cyfleoedd cyllid Rhanbarthol Ewrop fel Cronfeydd Strwythurol a Chronfeydd Cydweithredu Tiriogaethol (Interreg).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]