Gweler isod am ein hadnoddau dan sylw

Profion iechyd rhywiol hunan-weinyddol mewn carchar agored yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a dadansoddiad o Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth sy’n ceisio deall yr effeithiau ar iechyd a’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad gwasanaeth hunan-samplu ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) mewn carchar agored yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn cymhwyso dull arloesol drwy ddefnyddio lens a dull Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), ar y cyd â’r fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI).

Cartrefi fforddiadwy ar gyfer iechyd a llesiant

Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r papur briffio hwn yn dilyn ein papur briffio cryno ‘Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant’ ar ddyfodol cartrefi iach yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cartrefi fforddiadwy i iechyd a llesiant. Drwy amlygu’r cysylltiadau rhwng pa mor fforddiadwy yw tai ac iechyd, a thrwy rannu enghreifftiau o’r hyn y mae ‘da’ yn ei olygu, rydym yn gobeithio y bydd y papur briffio hwn yn helpu rhanddeiliaid yn y system dai i wneud cynnydd tuag at ddyfodol lle mae tai fforddiadwy yn helpu i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pawb yng Nghymru.

Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddarllenwyr weld methodoleg yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a ddefnyddiwyd gan y tîm.

Gweler isod am ein hadnoddau diweddaraf Gweld yr holl

Timau Gweld yr holl

Iechyd Rhyngwladol

Dysgu mwy

Polisi

Dysgu mwy

WHIASU

Dysgu mwy

Canolbwynt Iechyd a Chynaliadwyedd

Dysgu mwy

Hwb cefnogi Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod

Dysgu mwy

Uned Atal Trais

Dysgu mwy

Uned Gwyddoniaeth Ymddygiadol

Dysgu mwy