« Cyfeiriadur staff

Mae Karen Hughes yn Rheolwr Ymchwil a Datblygu Gallu (Prosiectau Arbenigol) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi bortffolio ymchwil iechyd y cyhoedd eang gydag arbenigedd mewn atal trais, defnydd o alcohol ac iechyd ac ymddygiad mewn amgylcheddau bywyd nos.

Mae ei sgiliau yn cynnwys adolygu llenyddiaeth yn systematig, dulliau ymchwil meintiol, gwerthuso ymyriadau a datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, arweiniodd Karen ymchwil ar gyfer Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Atal Trais ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl ac arweiniodd dîm ymchwil oedd yn cynnal prosiectau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar atal trais, ymddygiad yfed ieuenctid a datblygiad amgylcheddau bywyd nos iach.

Mae’n gweithio mewn cydweithrediad â rhwydweithiau a phrosiectau ymchwil rhyngwladol amrywiol ar drais a bywyd nos iach ac mae wedi cyhoeddi ystod eang o erthyglau ac adroddiadau cyfnodolion sydd yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl