Lansiwyd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y Gyfarwyddiaeth Ymchwil Polisi a Datblygiad Rhyngwladol ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ ar 14 Mehefin.

Dynodwyd y gyfarwyddiaeth yn Ganolfan Gydweithredol swyddogol gan Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Mawrth eleni, gan olygu mai hon yw’r unig ganolfan gydweithredol a’r ganolfan gyntaf yn y byd gan y WHO yn y maes arbenigol hwn.

Agorwyd achlysur lansio swyddogol y Ganolfan Gydweithredol yng Nghastell Caerdydd gan Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus, Jan Williams a’r Prif Weithredwr Tracey Cooper. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, yn bresennol yno hefyd ac fe longyfarchodd y sefydliad ar gyflawniad a oedd, yn ei farn ef, yn “rhywbeth y dylai Cymru ymfalchïo ynddo”.

“Mae hyn yn rhoi Cymru mewn sefyllfa gyffrous i wneud gwelliannau cynaliadwy a pharhaus i iechyd a llesiant pobl,” meddai.

Mae’r dynodiad yn cydnabod rôl ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn cynorthwyo’r broses o fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant pobl ac ysgogi datblygiad cynaliadwy.

Roedd cyn Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Syr Mansel Aylward CB a Chris Brown, Pennaeth interim Swyddfa WHO ar gyfer Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad yn Fenis yn yr achlysur lansio.

Gan annerch y gynulleidfa, bu i Chris ganmol partneriaeth hir sefydlog Iechyd Cyhoeddus Cymru â WHO, yn ogystal â gweledigaeth a blaenoriaethau cyffredin iechyd y sefydliadau.

Rhoddodd Gyfarwyddwr y Ganolfan Gydweithredol newydd, sef yr Athro Mark Bellis, drosolwg o waith y Ganolfan Gydweithredol, a fydd yn defnyddio holl arbenigedd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac “yn annog sectorau i gydweithio er mwyn edrych ar iechyd cyhoeddus yn yr hirdymor.”

Bydd y Ganolfan Gydweithredol yn datblygu, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth a dulliau ar y ffyrdd gorau o fuddsoddi mewn gwell iechyd a hyrwyddo polisïau sy’n fwy cynaliadwy yn y rhaglen waith dros gyfnod o 4 mlynedd.

Un o dasgau cyntaf y Ganolfan Gydweithredol yw datblygu canllaw ymarferol i eiriolwyr sy’n cynorthwyo’r rhai sy’n llunio polisïau wneud synnwyr o ddeallusrwydd iechyd cyhoeddus o ran datblygu polisïau.

Meddai Mark: “Mae’n bleser gennyf fod yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Gydweithredol newydd hon a hoffwn ddiolch o galon i bob aelod o’n tîm anhygoel am y cyflawniad gwych hwn.

“Nid cyd-ddigwyddiad yn fy marn i yw’r ffaith ein bod yng Nghymru ar gyfer lansio’r Ganolfan Gydweithredol gyntaf ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, ble mae gennym bolisïau o’r radd flaenaf sy’n ein gorfodi i gyd i feddwl am gostau a buddiannau yn sgil y ffordd yr ydym yn defnyddio adnoddau cyhoeddus.

“Rydym yn gobeithio cryfhau effaith ac enw da y gwaith iechyd cyhoeddus a wnaed yng Nghymru ar raddfa genedlaethol a byd eang, gan ysgogi buddsoddiad er mwyn gwella iechyd a chael mwy o ecwiti, a chynorthwyo’r broses o ddatblygu polisïau o’r radd flaenaf.”

Meddai Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae heddiw yn ddiwrnod cyffrous iawn i ni ac yn arwydd o waith caled iawn ar draws y sefydliad, ond ein Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn benodol.”

“Mae’n gydnabyddiaeth gref i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i Gymru fel cenedl hefyd.Mae cael bod yn Ganolfan Gydweithredol WHO ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ yn rhywbeth unigryw ledled y byd ar hyn o bryd, a thrwy ein hamgylchedd deddfwriaethol anhygoel a’n partneriaethau gallwn agor drysau rhyngwladol, rhannu ein gwaith a dysgu drwy gydweithredu.”

Meddai Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Hoffai aelodau’r Bwrdd a fi longyfarch pawb a fu’n rhan o gael y statws Canolfan Gydweithredol WHO clodwiw hwn, sy’n cydnabod yr enw da byd-eang a greodd Iechyd Cyhoeddus Cymru dros nifer o flynyddoedd.

“Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr enw da hwnnw a byddwn yn cefnogi Mark a’r tîm Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ynghyd â’r sefydliad ehangach, i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn i Gymru.“

Lansio’r Ganolfan Gydweithredol oedd diwedd wythnos o rannu gwybodaeth ryngwladol y gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol gyda Mark Bellis, Mariana Dyakova a Sumina Azam yn cyfrannu at gyfarfodydd y rhwydwaith ledled Ewrop.

Rhanbarthau er Iechyd WHO Ewrop yn ystod y 24ain cyfarfod blynyddol yn Gothenburg ar 12 Mehefin.

Yn ystod cyfarfod blynyddol EuroHealthNet ym Mrwsel, ar 12 Mehefin hefyd,cafwyd cyflwyniad gan Sumina Azam, sef Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, ar enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad mewn iechyd cyhoeddus yn sbardun i ddatblygiad cynaliadwy.

Cyflwynodd Mariana y Ganolfan Gydweithredol newydd i aelodau o Rwydwaith Bydd Canolfan Gydweithredol WHO ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ yn ymuno â rhwydwaith o dros 700 o ganolfannau cydweithredol sy’n cwmpasu gwahanol bynciau iechyd ac sydd wedi’u lleoli mewn 80 o wledydd ledled y byd.

Gallwch ddysgu mwy am y Ganolfan Gydweithredol drwy wefan y Gyfarwyddiaeth Ymchwil Polisi a Datblygu Rhyngwladol.

Gallwch edrych ar y cyflwyniadau a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd blynyddol Rhanbarthau Rhwydwaith Iechyd WHO Ewrop ac EuroHealthNet isod:

EuroHealthNet Presentation .pdf  (saesneg yn unig)

WHO Europe Regions for Health Network Presentation 2018.pdf (saesneg yn unig)

Dolenni Fideo

Beth yw Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd? (saesneg yn unig)

Ar beth fydd Canolfan Gydweithredol WHO yn geithio? (saesneg yn unig)

Beth yw ‘Bussoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’? (saesneg yn unig)