Partneriaid


Er mwyn rhannu profiad a sgiliau Cymru yn rhyngwladol, ac i ddod â dysgu yn ôl i Gymru, mae’r Tîm Rhyngwladol yn cysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Partneriaid Rhyngwladol

Bu Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd yn cydweithredu gyda’i gilydd ers amser maith, gallu a chydweithrediad rhyngwladol ar gyfer gwella llesiant a thegwch iechyd, atal a mynd i’r afael â bygythiadau i bobl a chymdeithas; a chyflawni twf cynhwysol cynaliadwy.

Mae partneriaethau a chyflawniadau strategol yn cynnwys:

  • Cyflawni dynodiad fel Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant: y ganolfan gyntaf yn y byd yn y maes arbenigedd hwn, sy’n llywio ac yn cefnogi polisi ac arferion sy’n hybu cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i bawb yng Nghymru ac yn Rhanbarth Ewrop.
  • Gweithio mewn cydweithrediad agos â Swyddfa Ranbarthol WHO yn Ewrop. (Saesneg yn unig)
  • Galluogi a hwyluso Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) rhwng Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop a Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gyflymu cynnydd tuag at adeiladu Cymru ac Ewrop iachach, mwy cyfartal a llewyrchus.
  • Ni yw canolbwynt byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Atal Trais ac Anafiadau yn y DU; y canolbwynt byd-eang ar gyfer ymchwil ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs); a’r canolbwynt ar gyfer Rhwydwaith Iechyd ar gyfer Rhanbarthau (RHN) Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig). Mae Cymru yn un o aelodau sefydlu’r RHN, ac mae wedi cynnal ymweliadau astudio ac wedi datblygu cyhoeddiadau a digwyddiadau ar y cyd.

 

 


Mae EuroHealthNet yn bartneriaeth ddielw o sefydliadau, asiantaethau a chyrff statudol sy’n gweithio i gyfrannu at Ewrop iachach trwy hyrwyddo tegwch iechyd ac iechyd rhwng ac o fewn gwledydd Ewropeaidd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelod o EuroHealthNet ac mae ganddo sedd ar ei fwrdd Weithredol. (saesneg yn unig)


Mae IANPHI yn cysylltu ac yn cryfhau asiantaethau’r llywodraeth sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd. Mae IANPHI yn gwella iechyd y byd trwy ysgogi profiad ac arbenigedd ei aelod-sefydliadau i adeiladu systemau iechyd cyhoeddus cadarn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelod llawn o IANPHI, a hyd at Fai 2021, roedd yn gadeirydd ar Rwydwaith Rhanbarthol Ewrop IANPHI. (Saesneg yn unig)

Partneriaid y DU

Sefydliad iechyd byd-eang arbenigol yw THET sy’n addysgu, hyfforddi a chefnogi gweithwyr iechyd trwy bartneriaethau iechyd byd-eang, cryfhau systemau iechyd a galluogi pobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig i gael mynediad at ofal iechyd hanfodol. (Saesneg yn unig)


Rydym yn cydweithredu’n agos â Chyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU, ac rydym yn cymryd rhan yn ei Bwyllgor Iechyd Byd-eang a Grwpiau Diddordeb Arbennig (SIGs) ar Ewrop ac eraill. (Saesneg yn unig)

Partneriaid Cymru

Mae Llywodraeth Cymru Ryngwladol yn hyrwyddo ac yn amddiffyn buddiannau Cymru yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol. Gan weithio gyda diddordebau a phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt rydym yn ymgymryd â gweithgareddau i godi proffil a dylanwad Cymru fel lle i fyw, ymweld, astudio a gwneud busnes.


Nod Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru i Affrica yw hwyluso dull cydgysylltiedig ac effeithiol o hyrwyddo a chefnogi y cysylltiadau iechyd cyhoeddus rhwng Cymru ac Africa. Mae’r Rhwydwaith yn agored i unrhyw bartneriaeth rhwng sefydliad yng Nghymru a chymar yn Is-Sahara Affrica, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar iechyd.


Mae Hyb Cymru Africa yn gydweithrediad sy’n dwyn ynghyd waith Cysylltiadau Cymunedol Cymru Affrica, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru i Affrica, y Panel Cynghori Is-Sahara, Masnach Deg Cymru a Hyb Datblygu Rhyngwladol Cymru. Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru sy’n cynnal Hyb Cymru Affrica.