Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
Arweiniad ar asesu effeithiau cloddio glo brig ar iechyd a llesiant (2012) (Saesneg yn unig) Chloe Chadderton, Eva Elliott a Gareth Williams (WHIASU) Dogfen ganllaw arfer gorau sy'n cynnwys cyngor ar gynnal HIA ar waith glo brig arfaethedig a chyflwyno canfyddiadau adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ar ffurf y gellir ei defnyddio ar gyfer y rhai sy'n dymuno ymgymryd ag HIA Gweld yr adnodd
Asesiad o’r Effaith ar Anghydraddoldeb Iechyd: Cynllunio ar gyfer Effaith Gadarnhaol (Saesneg yn unig) Awdurdod Iechyd Bro Taf Dogfen sy'n cynnwys ymarfer tasgu syniadau ar anghydraddoldebau iechyd. Gweld yr adnodd
Asesu ansawdd adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) Liz Green Canllaw i gefnogi adolygu a sicrhau ansawdd adroddiadau HIA a gomisiynwyd. Gweld yr adnodd
Asesu’r effaith ar iechyd wrth lunio polisi’r lywodraeth: Datblygiadau yng Nghymru, Cyfres Cromlin Ddysgu Polisi, Rhif 6 (Saesneg yn unig) Breeze C and Hall R (2002) Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Adfywio – Llangeinwyr, Nantgarw (Saesneg yn unig) Yn 2002, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) ar gynllun arfaethedig i ailddatblygu tai yn Llangeinwyr, hen gymuned lofaol ddifreintiedig yn y Garw. Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Coed Actif Cymru 2015 (Saesneg yn unig) Lee Parry Williams a Nerys Edmonds gyda diolch i Kate Hamilton a'r tîm Coed Actif Roedd Coed Actif yn adolygu ei dull gweithredu ac yn ystyried newid ffocws y prosiect i ddull ataliol yn hytrach na thargedu pobl â chyflyrau hirdymor presennol. Roeddent hefyd yn paratoi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac yn adolygu eu hymagwedd at werthuso. I ddeall effeithiau'r newid arfaethedig hwn ar iechyd, cynhaliwyd ymarfer sgrinio HIA gan ddefnyddio offeryn sgrinio HIA oedd newydd gael ei ddatblygu i'w ddefnyddio'n benodol gyda'r sector amgylcheddol. Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Cynllunio Gwastraff Rhanbarthol (Saesneg yn unig) Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 21 fod yn rhaid adolygu'r Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol bob tair blynedd, a bod yn rhaid cynnal HIA ar gyfer Strategaeth Wastraff Cymru a'r tri adolygiad 1af o asesiadau Llywodraeth Cymru (RWPRs). Felly, gwnaed HIA strategol cynhwysfawr i gefnogi a hysbysu'r RWPRs yng Nghymru, er mwyn sicrhau yr ystyriwyd ac y diogelwyd iechyd a llesiant yn ystod y broses cynllunio gwastraff rhanbarthol. Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Gweithgarwch Corfforol – Canolfan Hamdden Bae Colwyn (Saesneg yn unig) Asesiad o'r effaith ar iechyd (HIA) ar y prosiect Canolfan Iechyd arfaethedig yng Nghanolfan Hamdden Colwyn. Gweld yr adnodd
Astudiaeth achos partneriaeth prosiect BRAND (Saesneg yn unig) Prosiect tair blynedd yw prosiect BRAND, gyda 75% yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Interreg IVA yr UE rhwng Iwerddon a Chymru 2007-2013. Menter gymunedol yw'r rhaglen sy'n ceisio cryfhau cydlyniad economaidd a chymdeithasol drwy hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol a thrawsffiniol. Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd (taflen astudiaeth achos) (Saesneg yn unig) Jacobs Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd Adroddiad HIA Cam 1 (Saesneg yn unig) Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. Gweld yr adnodd
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd Adroddiad HIA Cam 2 (Saesneg yn unig) Jacobs Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. Gweld yr adnodd
Astudiaeth HIA dan Arweiniad y Gymuned – Pwll Glo Brig Margam (taflen astudiaeth achos) (Saesneg yn unig) Kenfig Hill Archwiliodd yr asesiad cynhwysfawr o'r effaith ar iechyd effaith yr estyniad arfaethedig i Bwll Glo Brig Margam. Gweld yr adnodd
Canllaw i adolygu tystiolaeth ar gyfer asesiadau o’r effaith ar iechyd (Saesneg yn unig) Dr J Biddulph, Coleg Prifysgol Llundain Ms A Boaz, Prifysgol Llundain y Frenhines Mary Ms A Boltong, Arsyllfa Iechyd Llundain yr Athro S Curtis, Prifysgol Llundain y Frenhines Mary Dr M Joffe, Coleg Imperial Llundain Dr K Lock, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Mae'r canllaw hwn yn darparu fframwaith cam wrth gam i gynorthwyo ymarferwyr i adolygu llenyddiaeth i'w defnyddio mewn HIA Gweld yr adnodd
Comisiynu HIA a phenodi arbenigwr neu ymgynghorydd HIA (Saesneg yn unig) Liz Green Canllaw sy'n cynnwys cwestiynau i'w hystyried wrth gomisiynu HIA a phenodi arbenigwr neu ymgynghorydd HIA. Gweld yr adnodd
Cyflwr yr Undeb. Ailuno Iechyd â Chynllunio i Hyrwyddo Cymunedau Iach (Saesneg yn unig) Michael Chang, Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi darlun o ba mor effeithiol yw'r cydweithio rhwng y sectorau cynllunio, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd wrth i ni gyrraedd 2019. Gweld yr adnodd
Cyfranogiad dinasyddion mewn HIA lleol: Llywio penderfyniadau ar ddyfodol safle tirlenwi yng Nghymru (Saesneg yn unig) Elliott E, Golby A, a Williams GH (2007) yn M Wismar Blau J a Ernst K (gol) The Effectiveness of Health Impact Assessment: Scope and limitations of supporting decision-making in Europe. Brwsel: Sefydliad Iechyd y Byd. Gweld yr adnodd
Cynllunio ar gyfer iechyd a lles gwell yng Nghymru TCPA, WHIASU a Iechyd Cyhoeddus Cymru Cafodd y Briff hwn ei ysgogi gan y ddyletswydd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyfrannu at gyflawni nodau lles cenedlaethol, a thrwy gryfhau’r system gynllunio sy’n cael ei harwain gan gynlluniau, eto gyda gofyniad i gyfrannu at nodau lles, a sefydlwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r newidiadau deddfwriaethol hyn yn gyfle amserol i ddatblygu arweiniad ymarferol ar gyfer ymarferwyr cynllunio ac iechyd y cyhoedd a gwneuthurwyr polisïau, i’w helpu i ystyried iechyd a lles wrth lunio cynlluniau lles lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Gweld yr adnodd
Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant Gwell – Canllawiau Cynllunio Atodol Cyngor Dinas Caerdydd Mae’r CCA hwn yn ategu polisïau yn Cynllun Datblygu Lleol (CDLL) mabwysiedig Caerdydd yn ymwneud ag iechyd a chynllunio ac mae wedi'i ddatblygu ar y cyd rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Gweld yr adnodd
Cynnwys cynllunio posibl yn ystod y broses datblygu cynllun tymor canolig integredig (Saesneg yn unig) Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. Gweld yr adnodd
Cynnwys y Cyhoedd mewn Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Saesneg yn unig) Chloe Chadderton, Eva Elliott, Gareth Williams (WHIASU) Fel rhan o'i rôl ymchwil a gwerthuso, mae'r papur hwn yn adrodd ar astudiaeth ymchwil sy'n ymchwilio i ddulliau ac effaith aelodau o'r cyhoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan mewn Asesu'r Effaith ar Iechyd. Mae'r fethodoleg yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth, ac astudiaethau achos yng Nghymru gan ddefnyddio cyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws gydag aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a'r sector statudol. Mabwysiedir dull theori sylfaenol er mwyn nodi themâu sy'n ymddangos yn y data. Gweld yr adnodd
Datblygu cymdeithaseg gyhoeddus drwy asesu’r effaith ar iechyd (Saesneg yn unig) Elliott E a Williams GH (2008) Dim ar gael Gweld yr adnodd
Effaith y dirywiad economaidd ar iechyd yng Nghymru: Adolygiad ac astudiaeth achos. Crynodeb Gweithredol (2010) (Saesneg yn unig) Eva Elliott, Emily Harrop, Heather Rothwell, Michael Shepherd a Gareth Williams Nod yr adolygiad hwn oedd casglu'r hyn a ddysgwyd o ymchwil i ddirwasgiadau blaenorol tra'n gosod y canfyddiad yng nghyd-destun Cymru heddiw. Dylid pwysleisio nad oedd hon yn astudiaeth gynhwysfawr, ond mae'n cynnig man cychwyn lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr ddechrau rhoi ystyriaeth i gamau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'n darparu set o argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer sy'n cynnwys awgrymiadau ynghylch pa grwpiau o'r boblogaeth a allai fod yn arbennig o agored i ddirwasgiad; yr angen i gyfuno adnoddau a chyfuno atebion yn enwedig mewn ardaloedd lle mae seilwaith gwasanaethau cymorth yn debygol o fod yn wan; yr angen am raglenni marchnad lafur gweithredol sy'n rhoi cymorth, yn magu hunan-barch ac yn creu rhwydweithiau cymdeithasol/cymunedol cefnogol (yn ogystal â chymorth chwilio am swyddi) ac i'r rhain gynnwys gwerthusiad o'u heffaith ar iechyd; i strategaethau cymorth gael eu datblygu mewn gweithleoedd i gefnogi gweithwyr a allai fod yn bryderus am statws eu swydd; ac ystyried effaith bosibl penderfyniadau gwario yn y dyfodol ar iechyd o ganlyniad i lai o wariant cyhoeddus. Yn ogystal, dylid diogelu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, teuluoedd dan straen a phobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Gweld yr adnodd
Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd – adroddiad technegol (Saesneg yn unig) Nerys Edmonds, Lee Parry-Williams, Liz Green (WHIASU) Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu. Gweld yr adnodd
Herio’r wyddoniaeth: gwybodaeth iechyd y cyhoedd a gweithredu mewn datblygiadau tir dadleuol, Cyfathrebu Risg ym maes Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) Elliott E, Harrop E a Williams GH (2010) yn Bennett P, Calman K, Curtis S, a Smith D (gol) Mae dadleuon am risgiau i iechyd y cyhoedd yn ymddangos yn y newyddion yn rheolaidd, p'un ai am ddiogelwch bwyd, materion amgylcheddol, ymyriadau meddygol, neu risgiau 'ffordd o fyw' megis yfed. I'r rheini sy'n ceisio rheoli neu reoleiddio risgiau, mae ymateb y cyhoedd weithiau'n ymddangos yn rhyfedd. I'r cyhoedd, gall ymddygiad y rheini sydd i fod 'wrth y llyw' ymddangos yr un mor rhyfedd. Mae ymddiriedaeth yn hollbwysig yn hyn o beth. Mae'r rhifyn newydd hwn o Risk Communication and Public Health yn cynnwys y cefndir damcaniaethol ac ymchwil, ac yn cyflwyno ystod eang o astudiaethau achos cyfoes a'r profiadau dysgu o 'r rhain, a'r materion gwleidyddol, sefydliadol a threfniadol y maent yn eu codi. Mae'n cloi gyda dadansoddiad o'r gwersi a ddysgwyd ac yn rhoi awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'r llyfr yn cynnig safbwyntiau rhyngwladol, ac mae'r cyfranwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau defnyddwyr yn ogystal ag ymarferwyr iechyd y cyhoedd ac academyddion. Mae'r rhifyn hwn wedi'i ddiweddaru'n sylweddol gyda deunydd newydd ac astudiaethau achos, ond mae'n cadw'r un ffocws: gwella cyfathrebu a hyrwyddo 'arfer da' mewn cyfathrebu risg, y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd ac mewn mannau eraill. Gweld tudalen we
HIA a gwblhawyd 1997-2015 (Saesneg yn unig) WHIASU HIA a gwblhawyd 1997-2015 Gweld yr adnodd
Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) Courtney L McNamara, Liz Green, Pepita Barlow, Mark A Bellis Gweld tudalen we
Profiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Cymru: cysyniadau, theori, technegau a chymwysiadau (Saesneg yn unig) Breeze C (2004) yn Kemm J, Parry J a Palmer S (gol) Caiff effeithiau ar iechyd yn aml eu hanwybyddu wrth gynllunio prosiectau datblygu yn amrywio o redfeydd newydd ar safleoedd meysydd awyr mawr i ddatblygu systemau cyflenwi d?r i wella glanweithdra. Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) yw'r asesiad o effeithiau ar iechyd, cadarnhaol neu negyddol, prosiect, rhaglen neu bolisi. Mae'n ymwneud felly ag iechyd poblogaethau ac ymdrechion i ragfynegi canlyniadau penderfyniadau nad ydynt wedi'u gweithredu eto ar gyfer iechyd yn y dyfodol. Mae HIA yn faes newydd sy'n tyfu gyda llawer o linynnau o syniadau a meysydd dadleuol. Gweld tudalen we
Profion iechyd rhywiol hunan-weinyddol mewn carchar agored yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a dadansoddiad o Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad Kathryn Ashton, Aimee Challenger, Andrew Cotter-Roberts, Christie Craddock, Jordan Williams, Liz Green Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth sy’n ceisio deall yr effeithiau ar iechyd a’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad gwasanaeth hunan-samplu ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) mewn carchar agored yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn cymhwyso dull arloesol drwy ddefnyddio lens a dull Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), ar y cyd â’r fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI). Gweld tudalen we
Proses ar gyfer cynnwys iechyd y cyhoedd mewn cynllunio datblygu (polisi) (Saesneg yn unig) Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. Gweld yr adnodd
Proses ar gyfer cynnwys iechyd ym maes rheoli datblygu (ceisiadau cynllunio) (Saesneg yn unig) Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. Gweld yr adnodd
Rhestr wirio gydag ystyriaethau polisi ar gyfer alinio polisïau datblygu lleol a phenderfyniadau cynllunio gyda pholisi cynllunio Cymru (Saesneg yn unig) Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA), WHIASU Mae'r rhestr wirio hon yn un o'r atodiadau o 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru' Gweld yr adnodd
Y broses i gynllunwyr sy’n ymgynghori ag iechyd y cyhoedd (Saesneg yn unig) Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. Gweld yr adnodd