Mae cwrs e-ddysgu WHIASU yn galluogi unigolion i sicrhau dealltwriaeth sylfaenol o HIA.  Mae’n addas ar gyfer pobl sy’n gweithio ar draws y gweithlu iechyd cyhoeddus ehangach ac yn y sectorau polisi iechyd a’r rhai nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus, y Trydydd Sector, cymunedau, comisiynwyr a dinasyddion preifat.  Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau, gan gynnwys: Lleoli HIA yng nghyd-destun Cymru a Pholisi Cymru, egwyddorion, proses a cheisiadau drwy astudiaethau achos.

Creu cyfrif newydd

Os ydych yn defnyddio’r cwrs e-ddysgu am y tro cyntaf bydd angen i chi greu cyfrif ar y wefan i ddechrau. Dilynwch y cyfarwyddiadau hwylus hyn i greu cyfrif a dechrau eich cwrs e-ddysgu HIA.

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau (saesneg yn unig)

Dewiswch y modiwl e-ddysgu (saesneg yn unig)