Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru.

Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio at adferiad o’r pandemig, argyfyngau yn y dyfodol a gwella lles meddwl y boblogaeth yn y tymor hir.

Mae’r MWIA a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:

  • Tri ffeithlun yn crynhoi’r prif ganfyddiadau
  • Crynodeb Gweithredol
  • Adroddiad Prif Ganfyddiadau
  • Adroddiad Technegol (agor yn Acrobat ar gyfer gweithredu llawn)

Gellir cyrchu’r adroddiad a’r holl allbynnau yma.

Ar Medi 8fed, bydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gweminar lle bydd canfyddiadau’r MWIA yn cael eu cyflwyno a’u trafod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma.