Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth am Uned Gymorth HIA Cymru, Asesiad Effaith Iechyd (HIA) a’r broses fel y’i hymarferir yng Nghymru, newyddion a datblygiadau diweddar. Mae’n darparu adnodd i’r rhai sy’n cynnal HIA ar hyn o bryd, llunwyr polisi a’r rhai sy’n newydd i’r broses ac sy’n chwilio am wybodaeth a thystiolaeth.  Mae dolenni ar gael i’r HIA sydd wedi’u cwblhau yng Nghymru a gweithgareddau eraill  HIA o’r Uned, er enghraifft hyfforddiant a gwybodaeth a dolenni i adnoddau a chanllawiau defnyddiol.

Y Newyddion Diweddaraf

19 Chwefror 2024

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau […]

Page Icon
10 Ionawr 2024

Dogfennau ymgynghori rheoliadau statudol Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Cymru wedi’u cyhoeddi

Cyhoeddwyd dogfennau ymgynghori rheoliadau statudol Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd Cymru ar 29 Rhagfyr gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 29 Mawrth 2024. Mae’r dogfennau ymgynghori a’r canllawiau ar sut i ymateb i’w gweld yma: Rheoliadau asesiadau o’r effaith ar iechyd | LLYW.CYMRU

20 Rhagfyr 2023

Sut mae WHIASU yn paratoi ar gyfer cyflwyno Rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliadau statudol asesiadau HIA Llywodraeth Cymru, sy’n dilyn ymlaen o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’n nodi: “Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu […]

18 Rhagfyr 2023

Adroddiad newydd: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd 

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, […]

14 Rhagfyr 2023

Nodwch y Dyddiad! Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau 

Dydd Iau 8 Chwefror 2024 9:30am – 12.30pm (ar-lein) Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol a gefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â […]

12 Hydref 2023

Digwyddiad: Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd

Ydych chi’n ymwneud â chynllunio asesiad lleol am risg hinsawdd? Hoffech chi ddysgu mwy am sut mae pobl a chymunedau yng Nghymru yn agored i newid yn yr hinsawdd? Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd ar-lein nesaf. Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus […]