Mae Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd, a sefydlwyd yn 2017 ac a leolir yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, yn darparu adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer asesu cyflym, gwerthuso a chymorth datblygu polisi a gwasanaeth i Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd, a thrwy’r Ganolfan, i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach.  Mae’r gwasanaeth iechyd y cyhoedd unigryw a’r cydweithredu academaidd a ddarperir gan Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd yn creu mwy o gyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, gwerthuso ymarfer, llywio polisi ac i ddatblygu capasiti a chydweithrediadau iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Mae Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd yn cefnogi gwaith rhyngwladol Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar atal trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac mae’r Uned yn darparu cefnogaeth academaidd i’r rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd.  Mae’r Uned hefyd yn datblygu gwaith ar faterion a dulliau iechyd y cyhoedd newydd, gan gynnwys gamblo, newid yn yr hinsawdd, gweithgarwch corfforol yn y gwaith ac effaith technolegau newydd ar berthnasoedd rhieni a phlant.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Karen Hughes drwy [email protected].

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Arweinydd: Karen Hughes

Yr hyn rydym yn ei wneud:

Mae Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd yn darparu adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer asesu cyflym, gwerthuso a chymorth datblygu polisi a gwasanaeth i Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy’r Ganolfan, i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach.

Yr hyn rydym wedi’i wneud:

Mae gwaith diweddar yn cynnwys gweithredu arolygon iechyd y cyhoedd cenedlaethol; gwerthuso menter gweithgarwch corfforol yn y gweithle genedlaethol; mesur nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) mewn poblogaeth o droseddwyr; gwerthuso datblygiad ymarfer wedi’i lywio gan ACE mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol; a chefnogi gwaith ar newid yn yr hinsawdd ac iechyd y cyhoedd.

Mae gwaith cyfredol yn cynnwys: amcangyfrif baich iechyd ac ariannol ACEs yng ngwledydd Ewrop; cefnogi arolygon poblogaeth ar iechyd a lles yn ystod COVID-19 ac ACEs; a chynnal adolygiadau systematig ar faterion sy’n cynnwys ACEs a diweithdra a chysylltiadau rhwng clefydau trosglwyddadwy ac anhrosglwyddadwy.