Yn 2017 cyflwynwyd cynnig ar y cyd ar gyfer Cymru gyfan rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, pedair ardal yr Heddlu ar draws Cymru a phartneriaid allweddol i Gronfa Trawsnewid yr Heddlu. Bu’r cynnig hwn yn llwyddiannus ac yn 2018 lansiwyd y Rhaglen Camau Gynnar Gyda’n Gilydd.

Mae’r Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd wedi ceisio mynd i’r afael â’r diffyg ymyriadau a gweithgarwch atal pan fydd ACEs yn amlwg, teuluoedd sydd mewn perygl o gael ganlyniadau gwael a’r effaith gysylltiedig ar Blismona yn nhermau bod yn agored i niwed a throseddau drwy:

  • Creu a rhannu tystiolaeth helaeth i’n helpu i symud o sefyllfa o ddeall yr ymchwil ar ACEs i ddeall beth yw ymateb cadarnhaol ac effeithiol ar wahanol gamau o Blismona, y system gyfiawnder ehangach ac ar gyfer partneriaid eraill rhyng-gysylltiedig;
  • Effeithio ar drefniadau llywodraethu sefydliadol tymor byr, canolig a thymor hwy er mwyn sicrhau bod strategaeth a pholisïau’n seiliedig ar ACEs;
  • Galluogi gweithlu sydd â’r gallu a’r capasiti i ymdopi â newidiadau yn y galw drwy wella hyfforddiant, recriwtio, cymorth i staff ac yn y blaen;
  • Newid systemau, prosesau ac ymarfer er mwyn galluogi ymateb clir a chryno 24/7 i’r rhai sy’n agored i niwed, gan ystyried ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu cadarnhaol uniongyrchol fel ffordd o wneud busnes yn hytrach na dull arbenigol ad hoc;
  • Gweithio ar y cyd â phartneriaid i gyflawni a sicrhau dull system gyfan lle mae ymarfer yr Heddlu yn cydnabod ac yn ymateb i effaith ar eraill a lle mae partneriaid eraill yn gallu ymateb yn fwy effeithiol i feysydd busnes sy’n cael effaith arwyddocaol ar Blismona.

Mae’r rhaglen wedi’i llywio gan yr egwyddorion canlynol wrth geisio cyflawni’r budd mwyaf i’r nifer fwyaf o bobl ac i ddatblygu systemau cynaliadwy a fydd yn parhau â’r gwaith hwn i’r dyfodol.

Gweithio gyda systemau nid symptomau

Canolbwyntio ar bobl nid ar brosesau

Gweithio’n wahanol nid gweithio mwy

Yn cael ei harwain gan dystiolaeth nid rhagdybiaeth

Ymgorffori, nid ychwanegu at

Cyflwynodd y rhaglen ymagwedd iechyd y cyhoedd at blismona, gan ddefnyddio tystiolaeth i ddeall y cyd-destun presennol ar hyd a lled Cymru ac i nodi beth sy’n gweithio, datblygu a gwerthuso ymyriadau i fynd i’r afael â’r achosion cyn ehangu ac asesu’r ymyriadau hynny sy’n dangos yr addewid mwyaf. Roedd y rhaglen yn cydnabod y gwahanol heriau sy’n wynebu’r heddlu ar hyd a lled Cymru ac felly roedd yn bosibl eu haddasu i’w hanghenion lleol yn hytrach na cheisio gorfodi un dull sy’n addas i bawb ar dirlun cymhleth. Cynhaliwyd astudiaeth ymchwil fawr a oedd yn cynnwys partneriaid allweddol amrywiol a oedd yn galluogi cael darlun mwy cyflawn yn nhermau’r prosesau a’r ddealltwriaeth bresennol o fod yn agored i niwed, ochr yn ochr â gwerthusiadau o nifer o brosiectau peilot yn edrych ar sut yr oedd hyfforddiant/dulliau wedi’u llylwio gan ACEs yn cael eu hystyried ar draws gwahanol sectorau.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd, ewch i’r wefan: https://www.aces.me.uk