Mae tîm y Polisi yn cynhyrchu, yn cyfosod ac yn cyfathrebu mewnwelediadau sy’n seiliedig ar weithredu a thystiolaeth yn effeithiol. Rydym yn defnyddio hyn i eirioli dros waith llunio polisïau sy’n diogelu ac yn hybu iechyd a llesiant pawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn darparu cymorth ac arbenigedd hanfodol i gydweithwyr ar draws y gyfarwyddiaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eiriolaeth polisi ac ymateb i ymgynghoriadau polisi.

Tîm Polisi Arwain: Dr. Louisa Petchey

Beth rydym ni’n ei wneud

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a thystiolaeth i ddeall a dylanwadu’n well ar faterion polisi iechyd y cyhoedd. Rydym hefyd yn uwchsgilio ac yn galluogi ein cydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal gweithgarwch eiriolaeth polisi drwy gefnogi ymgysylltu ag ymgynghoriadau polisi a darparu hyfforddiant i ymgorffori arferion gorau. Mae meysydd polisi presennol mae’r tîm yn canolbwyntio arnynt yn cynnwys iechyd a thai, yr argyfwng costau byw, tlodi plant, a’r cysylltiadau rhwng masnach ryngwladol ac iechyd. Rydym hefyd yn gweithio i weithredu a gwreiddio deddfwriaeth sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo iechyd a llesiant pawb yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Rydym yn arbenigo mewn galluogi cyrff cyhoeddus i wreiddio’r ffordd hirdymor o weithio drwy gymhwyso dulliau’r dyfodol yr ydym yn eu darparu ar hyn o bryd mewn partneriaeth â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Beth rydyn ni wedi’i wneud

Gan ganolbwyntio ar y cyd-destun polisi yng Nghymru, mae’r tîm Polisi wedi arwain ar ystod o brosiectau amserol. Yn ystod y gwaith dan sylw rydym wedi cynhyrchu tystiolaeth a syniadau newydd ar ystod eang o bynciau sy’n effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. Mae rhywfaint o waith diweddar yn cynnwys dadansoddi effeithiau posibl Brexit ar iechyd a llesiant yng Nghymru, archwilio opsiynau ar gyfer Incwm Sylfaenol yng Nghymru. Yn ogystal ag ystyried yr hyn y gallai tueddiadau’r dyfodol ei olygu ar gyfer cyfalaf cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Rydym hefyd wedi archwilio dulliau o wella llesiant yn ystod y gaeaf a lleihau pwysau’r gaeaf yn y system iechyd. Rydym hefyd wedi cefnogi sawl Asesiad Effaith ar Iechyd, gan gynnwys Brexit a chytundebau masnach rhyngwladol newydd. Rydym wedi cynhyrchu offer ac adnoddau i helpu cyrff cyhoeddus, gan gynnwys creu pecyn cymorth ar gyfer cymhwyso model dyfodol y Tri Gorwel ac ar gyfer gwneud y mwyaf o fuddion iechyd cyhoeddus y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Rydym yn parhau i adeiladu ar ein portffolio o dystiolaeth sy’n cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn tai iach. 

Tîm Polisi


Dr. Louisa Petchey

Uwch Arbenigwr Polisi

Ymunodd Louisa ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2018. Yn ei rôl gyfredol, mae Louisa yn rheoli’r tîm Polisi ac yn arwain partneriaeth gydweithredol gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar wreiddio’r ffordd hirdymor o weithio yn y gwaith o feddwl a chynllunio ar gyfer cyrff cyhoeddus. Cyn y penodiad hwn, dylanwadodd Louisa ar bolisi ac arferion ar ran elusennau iechyd a chyfiawnder cymdeithasol, a chwblhaodd PhD mewn Geneteg Ddatblygiadol.

Athro Jo Peden

Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ac Iechyd Rhyngwladol

Mae’r Athro Jo Peden yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd Rhyngwladol yn y Tîm Polisi ac Iechyd Rhyngwladol. Mae ganddi Gadair Athro er Anrhydedd o Brifysgol Wolverhampton yn ymwneud â’i gwaith ar atal trais, gwella iechyd merched a phlant yn y carchar a gwerthuso newid systemau cymhleth. Mae hi wedi gweithio cyn hyn i Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) ym Malaysia a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) yn Rhufain ac fel Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglenni Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Public Health England South, gan arwain ar anghydraddoldebau iechyd. Yn 2019 helpodd Jo i sefydlu Partneriaeth Atal Trais Gorllewin Canolbarth Lloegr sy’n defnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais. Mae hi hefyd wedi gweithio yn y gorffennol fel Ymgynghorydd Diogelu Iechyd.

Leah Silva

Uwch Bolisi a Swyddog Datblygu Tystiolaeth Rhyngwladol

Ymunodd Leah ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2022 yn Uwch Swyddog Datblygu Polisi a Thystiolaeth Ryngwladol. Cyn y rôl hon, gweithiodd Leah yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gan ganolbwyntio ar blant sy’n derbyn gofal, yr economi a sgiliau, iechyd a gofal cymdeithasol, a phrosiectau addysg drydyddol. Yn flaenorol, bu Leah yn gweithio yng Nghymdeithas Swyddogion Iechyd y Wladwriaeth a Thiriogaethol (ASTHO) yn yr Unol Daleithiau, lle helpodd i adeiladu gallu arweinyddiaeth asiantaethau iechyd y wladwriaeth a thiriogaethol i nodi, datblygu a gweithredu cyfraith a pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hefyd wedi gweithio yn llywodraeth y wladwriaeth yn gyfreithiwr iechyd y cyhoedd.

Menna Thomas

Swyddog Polisi Iechyd y Cyhoedd

Mae Menna yn Swyddog Polisi yn y Tîm Polisi. Gwnaeth hi ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2022. Mae Menna yn gweithio ar ddigartrefedd a chyfalaf cymdeithasol ac mae’n cydlynu ymatebion i ymgynghoriadau Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyn hynny, bu Menna yn gweithio ym maes polisi ac ymarfer mewn sefydliadau sector cyhoeddus a gwirfoddol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Lewis Brace

Swyddog Ymchwil Polisi Iechyd y Cyhoedd

Ymunodd Lewis â’r tîm Polisi ac Iechyd Rhyngwladol fel Swyddog Ymchwil Polisi Iechyd y Cyhoedd ym mis Gorffennaf 2021 ar ôl gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr ymateb i COVID fel ymarferydd yn nhîm Caerdydd a’r Fro. Ar hyn o bryd, mae Lewis yn ymwneud â phrosiectau ymchwil ar lesiant y gaeaf, newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau bod yn yr awyr agored ac archwilio arfordir Cymru yn ei gwch.


I gael rhagor o wybodaeth am waith Polisi, anfonwch e-bost i [email protected] neu
cysylltwch â Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, ar [email protected].

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.