Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn gweithio gyda’r gymuned iechyd cyhoeddus ehangach a sefydliadau rhanddeiliaid i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddarperir gan y Ddeddf i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau.

Gallwch ymgysylltu â gwaith yr Hwb trwy e-bostio: [email protected]

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Ein gwaith

Beth rydyn ni’n ei wneud:

Mae gan y ‘Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd’ sawl rôl gefnogol wrth wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i iechyd y cyhoedd o’r ddeddfwriaeth arloesol hon.

Mae rhaglenni gwaith yr Hwb yn cynnwys cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel corff cyhoeddus yn y Ddeddf, gyda’i gyfraniad tuag at bob un o’r nodau llesiant, ac wrth gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy, i ddod yn sefydliad enghreifftiol, hyrwyddol a chynaliadwy.

Yn ogystal â hyn, mae’r Hwb yn cefnogi’r system iechyd cyhoeddus ehangach yn ei rôl ar y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella’r potensial i wella iechyd a llesiant.

Mae’r Hwb yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau rhanddeiliaid traws-sector ac yn eu cefnogi i gryfhau effaith y Ddeddf ar iechyd y cyhoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol.

Beth rydyn ni wedi’i wneud:

Mae gwaith diweddar wedi cynnwys cefnogi datblygiad Asesiad Effaith Iechyd ar oblygiadau iechyd posibl gweithio gartref a chefnogi datblygiad yr adroddiadau Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu i lywio Ymateb ac Adferiad Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i’r pandemig Covid- 19.

Mae gwaith hefyd wedi cynnwys cyflwyno gweminar i’n partneriaid yn yr Iseldiroedd i rannu profiad ‘Cymru’ a dysgu o amgylch y Nodau Datblygu Cynaliadwy a datblygu gweithdy ar-lein i gefnogi timau ac unigolion o fewn cyrff cyhoeddus i nodi a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Mae’r gwaith cyfredol mewn meysydd fel newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddatblygu e-sesiynau briffio i gefnogi adferiad gwyrdd Covid-19 trwy nodi cyfleoedd i gefnogi meysydd blaenoriaeth, gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru ac Ewrop yn y Cyd-weithredu ar Raglennu Ecwiti Iechyd Ewrop (JAHEE ) a pharhau i gefnogi datblygiad yr adroddiadau Sganio Gorwel Rhyngwladol.

Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy

Helpu sefydliadau ac unigolion i ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned a phobl ym mhopeth a wnânt. Mae’r e-gatalog Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy yn rhoi crynodeb byr o’r holl adnoddau a gynhyrchwyd gan yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd. Bydd yr adnoddau a hyrwyddir yn yr e-gatalog yn helpu timau ac unigolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, ac yn annog ymddygiad cynaliadwy yn eu bywyd gwaith a chartref fel ei gilydd. Mae’r adnoddau yn gymysgedd o e-friffiau, adroddiadau a phecynnau cymorth, sy’n dwyn ynghyd ymchwil, syniadau, awgrymiadau a chamau gweithredu ymarferol. Mae rhai wedi’u hanelu at lefel unigol neu dîm, rhai ar lefel polisi sefydliadol, cenedlaethol neu ryngwladol, i gefnogi cynaliadwyedd, gwella iechyd a llesiant, helpu i wreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a lleihau ein heffaith ar y blaned.

SIFT HEM – Modiwl Amgylchedd Iach Gwelliannau Cynaliadwy ar gyfer

Mae gweithdy ar-lein SIFT HEM yn gyfle i dimau nodi eu heffeithiau amgylcheddol a gwneud rhywbeth i’w lleihau. Mae nid yn unig yn edrych ar weithgaredd y tîm cyfan ond hefyd ar weithgaredd unigolion sydd yn ffurfio’r tîm. Mae SIFT HEM yn seiliedig ar bedair thema strategol (datgarboneiddio, bioamrywiaeth, dim gwastraff a newid hinsawdd) i alluogi timau i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau effaith amgylcheddol a chyfrannu at unrhyw systemau rheoli amgylcheddol presennol yn eu sefydliad.

Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r dyletswydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus “gynnal a gwella bioamrywiaeth (cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir) a, thrwy wneud hynny, yn hybu cydnerthedd ecosystemau”. Yn 2023 rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi’i ddiweddaru, sy’n amlinellu’r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, gan amlygu’r cynnydd a wnaed rhwng 2019 a 2022 gan gynnwys yn erbyn camau a nodwyd yn ein Cynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.

Lleihau Allyriadau Carbon

Mae’r ffeithlun hon yn esbonio pam fod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sylweddol i iechyd. Mae’n cynnwys ffeithiau am newid hinsawdd ac yn awgrymu camau y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau ein heffaith i helpu i ddiogelu iechyd pobl yn ogystal ag iechyd y blaned.

Cyfleoedd Gwyrdd Gwanwyn/ Haf 2022

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.

Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy: Gweithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig – Pecyn cymorth ar gyfer sefydliadau byd-eang

Datblygwyd y pecyn cymorth Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy fel rhan o’r ymateb gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gymryd camau clir a chadarnhaol i helpu sefydliadau a’u staff i ymateb i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDG y CU) Gan ddarparu gwybodaeth, mae’r pecyn cymorth hefyd yn cefnogi staff, ar lefel unigol neu trwy gydweithio fel timau, i ‘weithredu newid’ trwy eu helpu i sefydlu egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Her Nodau Llesiant Byddwch y Newid

Mae’r Her Nodau Llesiant yn nodi chwe newid ymddygiad gwahanol sydd yn ein hysbrydoli i weithredu i fyw’n fwy cynaliadwy. Maent wedi eu dylunio i gael eu gwneud ar eich pen eich hun, gydag aelodau o’ch tîm neu fel her rhwng timau. Gan ddefnyddio Nodau Llesiant Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy ehangach y Cenhedloedd unedig, mae’r heriau yn canolbwyntio ar Ffasiwn Araf, Deiet Planhigion, Tuag at Ddim Gwastraff, Teithio Iach, Defnyddiwr Moesegol a Chefnogi Bywyd Gwyllt, gyda chamau cynaliadwy yn cael eu darparu i’ch tywys ar daith eich her.

Byddwch y Newid – Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth Cynaliadwy

Rydym i gyd yn byw mewn byd cyfnewidiol ac ansicr, yn ystod argyfwng newid hinsawdd a phandemig byd-eang, sydd yn amlygu pwysigrwydd gweithredu a byw’n gynaliadwy i amddiffyn a diogelu ein byd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae Covid-19 wedi newid y ffordd y mae pobl yn byw a gweithio, gan annog gweithio gartref ar unwaith, lle bo hynny’n ymarferol a rhoi cyfleoedd i fyw’n fwy cynaliadwy. I’r rheiny sydd yn gallu gweithio gartref, mae’r newid cyflym i weithio gartref a gweithio ystwyth wedi cyflwyno elfennau cadarnhaol a negyddol, rhai yn fwy heriol nag eraill. Bydd yr e-ganllaw hwn yn helpu unigolion i gymryd camau cynaliadwy tra’n gweithio gartref i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Helpu Natur i Ffynnu

Mae Natur yn dirywio yn fyd-eang ar gyfraddau digynsail yn hanes bodau dynol ac mae cyfraddau difodiant rhywogaethau yn cynyddu, gydag effeithiau difrifol bellach yn debygol i bobl ar draws y byd. Mae ein hiechyd a’n llesiant yn dibynnu ar amgylchedd iach, sydd yn cynnwys defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy a chefnogi bioamrywiaeth.

Tîm Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd:

Eurgain Powell

Rheolwr Rhaglen

Eurgain yw’r Rheolwr Rhaglen Datblygiad Cynaliadwy o fewn Canolfan Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ymunodd ym mis Mawrth 2022 a’i rôl yw cefnogi gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, drwy fentrau cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd. Cyn ymuno â’r Ganolfan, bu Eurgain yn gweithio fel Gwneuthurwr Newid ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru gan arwain gwaith ar ddatgarboneiddio, trafnidiaeth a chaffael, gan ddylanwadu ar strategaethau a phenderfyniadau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Comisiwn Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd, Fforwm y Dyfodol a Chyngor Sir Caerfyrddin gan ddatblygu prosiectau cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd. Mae Eurgain yn angerddol iawn am wneud gwahaniaeth a diogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Pan nad yw’n gweithio mae’n brysur gyda phrosiectau cynaladwyedd lleol ac yn mwynhau treulio amser ym myd natur, yn rhedeg, yn beicio ac yn mynd â’i chi am dro.

Tracy Evans

Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy

Tracy yw’r Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy yn yr Hwb. Mae hi’n gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd a bioamrywiaeth i gefnogi nodau llesiant Cymru a chyflawni dyfodol mwy cynaliadwy. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2020, bu Tracy yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili mewn amryw o rolau polisi a chynaliadwyedd. Y tu allan i’r gwaith, mae Tracy yn mwynhau cerdded a beicio mynydd.