Mae’r Uned BeSci yn darparu arbenigedd arbenigol ar wyddor ymddygiad, ac yn hyrwyddo ac yn galluogi ei chymhwyso’n gynyddol fel mater o drefn, i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.  Mae’r Uned yn cefnogi rhanddeiliaid yn y system iechyd y cyhoedd ehangach, i gyflawni newid sylweddol wrth wella canlyniadau iechyd a llesiant.  Mae’n darparu cymorth arbenigol i integreiddio gwyddor ymddygiad fel ffordd o optimeiddio polisi, gwasanaethau a chyfathrebu sydd wedi’u cynllunio i wella llesiant; datblygu adnoddau i gynyddu’r defnydd o wyddor ymddygiad fel mater o drefn; ac yn hwyluso datblygiad gallu a chapasiti. Cyflwynir llawer o’r gwaith hwn trwy bartneriaethau ag unedau a sefydliadau sefydledig ar draws sectorau amrywiol a sefydliadau academaidd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Gwyddor Ymddygiad ar [email protected].

Our work Lead: Ashley Gould

Beth yw Gwyddor Ymddygiad?

Yn ei hanfod, astudiaeth systematig ydyw o ymddygiad (gweithgarwch mewn ymateb i ysgogiad) – yr hyn sy’n ei alluogi, yr hyn sy’n ei atal, a’r ffordd orau i’w ysgogi.  Mae dadansoddi sut a pham y mae pobl yn ymateb yn seicolegol ac yn ymateb i ymyriadau, amgylcheddau ac ysgogiadau, yn hytrach na dibynnu ar ragdybiaethau o sut y dylent weithredu, yn gwella’r siawns o wireddu’r amcan o bolisi, gwasanaeth, cyfathrebu – ac o wella iechyd a llesiant.

Mae gwyddor ymddygiad yn cyfuno theori, mewnwelediadau a dulliau o economeg ymddygiad, seicoleg wybyddol, gymdeithasol ac iechyd.  Gall y dull cyfunol hwn helpu i feithrin dealltwriaeth o ymddygiadau; yr hyn sy’n dylanwadu arnynt; ac i gynllunio a phrofi gwelliannau mewn ymyriadau.  Mae dylanwadau ac ymatebion yn aml yn amrywio ar draws segmentau o boblogaethau (yn ôl llawer o nodweddion, megis oedran, rhyw, statws economaidd-gymdeithasol, daearyddiaeth, diwylliant) – gall defnyddio dull gwyddor ymddygiad, i ddeall y gwahaniaethau hyn a datblygu gweithgarwch wedi’i deilwra, helpu i amddiffyn rhag ‘anghydraddoldeb wedi’i gynhyrchu gan ymyrraeth’ a helpu i unioni annhegwch.

Ein Cenhadaeth:

Darparu arbenigedd arbenigol ar wyddor ymddygiad, a datblygu ei chymhwysiad, i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.

Rydym yn darparu cymorth rhagweithiol ac ymatebol i randdeiliaid ar draws y system iechyd y cyhoedd, er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar iechyd a llesiant a lleihau annhegwch.  Rydym yn cynnig arbenigedd arbenigol, a chysylltiad â rhwydwaith o bartneriaid academaidd ac ehangach.  Mae rhwydweithio, cydweithio a deall anghenion rhanddeiliaid yn ein galluogi i danategu gweithgarwch i feithrin gallu, cyfleoedd a chymhelliant i ddefnyddio gwyddor ymddygiad fel mater o drefn. 

Canllaw Gwyddor Ymddygiad

Mae’r canllaw hwn i ymarferwyr a llunwyr polisi yn rhoi cyflwyniad byr i wyddor ymddygiad a phroses gam wrth gam ar gyfer datblygu ymyriadau newid ymddygiad – boed yn bolisi, gwasanaeth neu gyfathrebu.  Fe’i cynlluniwyd i gefnogi arbenigwyr pwnc i wneud y gorau o’u hymyriadau – gan helpu i sicrhau ein bod yn aml yn ‘cael yr hyn yr ydym yn anelu ato’.  Gwella iechyd a llesiant: canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer