Is-adran Iechyd Ryngwladol

Canolbwynt ar gyfer gwaith iechyd byd-eang, casglu gwybodaeth, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio gweithredol ledled Cymru a’r byd.

Mae’r Is-adran Iechyd Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o ddysgu cymhwysol o bolisi rhyngwladol, ymarferion ac ymchwil er mwyn cefnogi arloesedd iechyd cyhoeddus; datblygu pobl a sefydliadau sy’n gyfrifol dros fyd-eang ac ar draws y GIG; hwyluso cydweithredu a buddsoddi rhyngwladol yng Nghymru; a chryfhau effaith iechyd byd-eang Cymru ’trwy rannu ein hasedau a chyfrannu at ddiogelwch iechyd byd-eang a datblygu cynaliadwy.

Rydym yn rhannu profiad a gwybodaeth cymreig â rhanbarthau rhyngwladol tebyg, yn ogystal â chynorthwyo gyda hwyluso gweithgaredd iechyd mewn gwledydd incwm is a chanolig. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Rhaglen Cymru dros Affrica, Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, EuroHealthNet a phartneriaid cenedlaethol, y DU a rhyngwladol allweddol eraill, gan ddatblygu synergeddau a hyrwyddo cyfleoedd.


Is-adran Bolisi Iechyd y Cyhoedd

Yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau yng Nghymru er mwyn gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau.

Ein nod yw dylanwadu ar bolisi a’i lywio ar lefel genedlaethol a lleol, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid eraill i gyflawni ein nodau. Mae’r Is-adran yn cynnwys Tîm Polisi a Phartneriaethau, Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, a’r Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd.


Timau a gynhelir