« Cyfeiriadur staff

Jo Hopkins yw’r Cyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn Uwch Was Sifil i lywodraeth y DU yn flaenorol, gweithiodd Jo i’r Swyddfa Gartref am ugain mlynedd mewn swyddi gweithredol a pholisi ym maes mewnfudo, troseddau treisgar yn cynnwys cyflwyno strategaeth ar draws llywodraeth y DU yn 2010, ‘Together we can end Violence Against Women and Girls’ ac yna saith mlynedd fel yr uwch arweinydd ar gyfer Cymru a Datganoli. Cafodd Jo ei secondio i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2018 i dderbyn rôl Cyfarwyddwr yr Hyb Cymorth ACE, gan drawsnewid systemau i atal a lleddfu ACE yng Nghymru, ac yna yn 2019 derbyniodd hefyd rôl Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd Polisi a Phartneriaid. Mae ei swydd bresennol yn dod â’r holl gyfrifoldebau hyn ynghyd i ddatblygu ymagwedd sydd yn ymwybodol o ACE ac yn wybodus am drawma ar draws gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a chymdeithas. Mae Jo yn briod gydag un mab a dwy lys-ferch ac mae ar hyn o bryd yn cwblhau PhD rhan-amser ym Mhrifysgol Aberystwyth ar reolaeth gymhellol mewn gwrthdaro.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl