Fel un o 14 sefydliad blaenllaw y sector cyhoeddus, llofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru Siarter Teithio Iach Caerdydd ym mis Ebrill 2019, yn dangos eu hymrwymiad i gefnogi ac annog staff ac ymwelwyr i deithio mewn ffordd gynaliadwy.
Mae Siarter Teithio Iach Caerdydd yn hybu cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a’r defnydd o gerbydau ag allyriadau isel iawn. Mae’r camau yn cynnwys sefydlu hyrwyddwr hyrwyddwyr teithio cynaliadwy, datblygu ymgyrchoedd cyfathrebu wedi eu targedu, cynnig a hybu’r Cynllun Beicio i’r Gwaith a lleihau nifer teithiau staff.
Mae hybu a chefnogi dulliau teithio egnïol cynaliadwy fel cerdded a beicio yn galluogi pobl i integreiddio gweithgaredd corfforol i’w bywydau bob dydd, sydd yn hanfodol ar gyfer iechyd da ac yn cyfrannu at lesiant.

Chwilio'r holl adnoddau