Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu 2022/23

Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu hwn yw’r trydydd yn y gyfres, yn dilyn y Calendrau Cryno o 2020/21 a 2021/22. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, cyfosod a chyflwyno crynodeb clir a chryno o’r pum Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023. Yn ogystal, mae’r ddau adroddiad cryno (a gyhoeddwyd yn 2022) wedi’u cynnwys. Mae’r llif gwaith Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pynciau iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg, sydd wedi ceisio gwella a llywio gweithredoedd a dulliau o’r fath yng Nghymru.

Nod y crynodeb yw llywio trosolwg cryno o weithredu polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, mwy cyfartal, cydnerth, llewyrchus a chyfrifol yn fyd-eang, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalennau synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol.

Mae’r themâu’n cynnwys:
• Gofal canolraddol
• Yr argyfwng costau byw
• Diogelu’r amgylchedd addysgol rhag COVID: 4-18 oed
• Addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar
• Ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechlynnau
• Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol
• Effaith COVID-19 ar ehangu’r bwlch iechyd a bregusrwydd

Awduron: Mariana Dyakova, Emily Clark+ 14 more
, Andrew Cotter-Roberts, Abigail Malcolm (née Instone), Golibe Ezenwugo, Leah Silva, Anna Stielke, Sara Cooklin-Urbano, Lauren Couzens (née Ellis), James Allen, Aimee Challenger, Claire Beynon, Mark Bellis, Mischa Van Eimeren, Angie Kirby, Benjamin Bainham

Adroddiad Cynnydd IHCC 2018-22

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu cynnydd y Ganolfan Cydlynu Iechyd Rhyngwladol (IHCC) o ran llywio a galluogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter) ar draws y GIG dros y pedair blynedd diwethaf. Mae hefyd yn rhoi enghreifftiau o waith partneriaeth iechyd rhyngwladol ar draws y Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG. Mae’r adroddiad yn amlygu cynlluniau a dyheadau’r IHCC ar gyfer y dyfodol, o ran cefnogi GIG iachach, mwy cyfartal, sy’n gyfrifol yn fyd-eang, yn wydn a llewyrchus yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn amlygu rôl yr IHCC, ei lwyddiannau, ffyrdd o weithio, strwythurau a gweithgareddau cydweithredol; ac yn amlinellu esblygiad yr IHCC mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, y DU, cenedlaethol a lleol. Mae’r rhain yn cynnwys heriau a chyfleoedd fel ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (‘Brexit’), pandemig COVID-19 a’r argyfwng ‘costau byw’. Mae’n dangos yr offer a ddefnyddir i alluogi dysgu ar y cyd, hwyluso synergeddau ar draws y GIG a thraws-sector, a sicrhau’r buddion mwyaf posibl i iechyd a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.

Awduron: Liz Green, Mariana Dyakova+ 2 more
, Laura Holt, Kit Chalmers

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Ymgyrchoedd cyfathrebu er derbyn brechlynnau

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.

Mewn ffocws: Ymgyrchoedd cyfathrebu er derbyn brechlynnau

Awduron: Abigail Malcolm (née Instone), Leah Silva+ 5 more
, Lauren Couzens (née Ellis), Sara Cooklin-Urbano, Aimee Challenger, Emily Clark, Mariana Dyakova

Argyfwng Costau Byw yng Nghymru; Cymhwyso Gwyddor Ymddygiad

Mae deall a ffurfio ymddygiadau, gan gynnwys manteisio ar wasanaethau cymorth, yn hanfodol wrth ymateb i’r argyfwng costau byw. Mae’r ffeithlun hwn yn dangos sut y mae modd defnyddio gwyddor ymddygiad, gan gyfeirio at yr adroddiad a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r adnoddau a gynhyrchwyd gan Uned Gwyddor Ymddygiad Cyngor Sir Hertford.

Awduron: Alice Cline, Ashley Gould

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Addysg a gofal plentyndod cynnar

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.

Mewn ffocws: Addysg a gofal plentyndod cynnar

Awduron: Abigail Malcolm (née Instone), Leah Silva+ 4 more
, Lauren Couzens (née Ellis), Sara Cooklin-Urbano, Emily Clark, Mariana Dyakova

Deall anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru gan ddefnyddio dull dadgyfansoddi Blinder-Oaxaca

Ar draws Cymru a’r byd, mae anghydraddoldeb iechyd yn parhau’n broblem sydd yn rhyng-gysylltiedig gyda deinameg cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a chymhleth. O ganlyniad, mae angen i weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn iechyd ddigwydd ar lefel strwythurol, gan gydnabod y cyfyngiadau sy’n effeithio ar allu a chyfle unigolyn (neu gymuned) i alluogi newid. Er bod ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd’ yn gysyniad sydd wedi ei sefydlu, mae deall cyfansoddiad y bwlch iechyd yn llawn yn dibynnu ar gipio cyfraniadau perthnasol myrdd o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn dadansoddiad meintiol. Ceisiodd y dadansoddiad dadgyfansoddi esbonio’r gwahaniaethau ym mynychder y canlyniadau hyn mewn grwpiau sydd wedi eu haenu yn ôl eu gallu i arbed o leiaf £10 y mis, a ydynt mewn amddifadedd materol, a phresenoldeb salwch, anabledd neu wendid hirsefydlog sy’n cyfyngu. Fe wnaeth y dadansoddiad nid yn unig feintioli’r bylchau iechyd arwyddocaol oedd yn bodoli yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig COVID-19, ond mae hefyd wedi dangos pa benderfynyddion iechyd oedd mwyaf dylanwadol. Mae deall y ffactorau sydd fwyaf cysylltiedig ag amrywiadau mewn iechyd yn allweddol i nodi ysgogwyr polisi i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant ar draws poblogaethau.

Awduron: James Allen, Andrew Cotter-Roberts+ 4 more
, Oliver Darlington, Mariana Dyakova, Rebecca Masters, Luke Munford

Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ar ymyriadau’n ymwneud ag iechyd meddwl – Adolygiad cwmpasu

Mae Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) yn ddull methodolegol sydd yn ymgorffori pob un o’r dair agwedd o werthuso ymyriadau. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion salwch ac anabledd yn fyd-eang. Nod yr astudiaeth hon yw mapio tystiolaeth bresennol o werth cymdeithasol ymyriadau iechyd meddwl sy’n defnyddio methodoleg SROI. Yr adolygiad cwmpasu hwn yw’r cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar SROI o ymyriadau iechyd meddwl, yn canfod nifer dda o astudiaethau SROI sydd yn dangos adenillion cadarnhaol o fuddsoddi gyda’r ymyriadau a nodir. Mae’r adolygiad hwn yn dangos y gallai SROI fod yn offeryn defnyddiol ac yn ffynhonnell tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi ac ariannu ar gyfer buddsoddi mewn iechyd a lles meddwl, am ei fod yn rhoi cyfrif am fuddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach ymyriadau iechyd y cyhoedd.

Awduron: Rajendra Kadel, Anna Stielke+ 3 more
, Kathryn Ashton, Rebecca Masters, Mariana Dyakova

Gwella iechyd a llesiant: Canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer

Mae’r canllaw hwn i ymarferwyr a llunwyr polisi yn rhoi cyflwyniad byr i wyddor ymddygiad a phroses gam wrth gam ar gyfer datblygu ymyriadau newid ymddygiad – boed yn bolisi, gwasanaeth neu gyfathrebu. Fe’i cynlluniwyd i gefnogi arbenigwyr pwnc i wneud y gorau o’u hymyriadau – gan helpu i sicrhau ein bod yn aml yn ‘cael yr hyn yr ydym yn anelu ato’. Gwella iechyd a llesiant: canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer

Awduron: Robert West, Ashley Gould

Tuag at economi llesiant: Effaith economaidd sector gofal iechyd Cymru

Mae iechyd a lles y boblogaeth yn ganlyniad, yn ogystal â sbardunwr, datblygiad economaidd a ffyniant ar lefelau byd-eang, Ewropeaidd, cenedlaethol ac is-genedlaethol (lleol). Yn y papur hwn, mae pwysigrwydd y sector gofal iechyd i economi Cymru’n cael ei archwilio. Rydym yn defnyddio nifer o ffynonellau data ar gyfer economi’r DU a Chymru ac yn deillio model economaidd ar gyfer 2017. Rydym yn amcangyfrif cynnyrch, incwm, cyflogaeth, gwerth ychwanegol, a lluosogwyr mewnforio y sector gofal iechyd. Mae canlyniadau’n awgrymu bod gan y sector gofal iechyd gyfraniad uwchlaw’r cyfartaledd mewn pedair agwedd economaidd a archwiliwyd o economi Cymru (cynnyrch, incwm, cyflogaeth, gwerth ychwanegol), yn ôl ei effaith ar yr ecosystem economaidd oddi amgylch.

Awduron: Timotej Jagrič, Christine Brown+ 6 more
, Dušan Fister, Oliver Darlington, Kathryn Ashton, Mariana Dyakova, Mark Bellis, Vita Jagrič

Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu Gwneud yr amgylchedd addysgu’n wydn yn erbyn COVID: 4-18 oed

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.

Mewn ffocws: Gwneud yr amgylchedd addysgu’n wydn yn erbyn COVID: 4-18 oed

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 5 more
, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Lauren Couzens (née Ellis), Emily Clark

Cost anghydraddoldeb iechyd i’r GIG yng Nghymru

Mae anghydraddoldebau eang mewn iechyd a defnydd o wasanaethau gofal iechyd rhwng pobl sy’n byw mewn cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig yng Nghymru. Gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy gyfuniad o ymgyrchoedd hybu iechyd a pholisïau ymyrraeth gynnar wedi’u targedu at gymunedau difreintiedig arwain at welliant sylweddol mewn iechyd a lles, yn ogystal ag arbedion i GIG Cymru.

Awduron: Rajendra Kadel, James Allen+ 8 more
, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Brendan Collins, Joanna M. Charles, Miqdad Asaria, Mariana Dyakova, Mark Bellis, Richard Cookson

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol Yr Argyfwng Costau Byw

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Yr argyfwng costau byw

Awduron: Emily Clark, Anna Stielke+ 3 more
, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Mariana Dyakova

Archwilio gwerth cymdeithasol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd: Arolwg cwmpasu rhyngwladol a chyfweliadau arbenigol

Mae cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn iechyd cyhoeddus ataliol drwy ddarlunio nid yn unig yr effaith ar iechyd ond gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus yn hanfodol. Mae hyn yn cael ei gyfleu gan y cysyniad o Werth Cymdeithasol, sydd o’i fesur, yn dangos gwerth rhyngsectoraidd cyfunol iechyd y cyhoedd. Gall yr ymchwil hon lywio gwaith yn y dyfodol i ddeall sut i fesur gwerth cymdeithasol cyfannol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus, er mwyn cryfhau gallu ac effaith sefydliadol, yn ogystal â chyflawni cymdeithas fwy teg, a system iechyd ac economi fwy cynaliadwy, gan gyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn iechyd cyhoeddus, wrth i ni adfer o COVID-19.

Awduron: Kathryn Ashton, Liz Green+ 4 more
, Timo Clemens, Lee Parry-Williams, Mariana Dyakova, Mark Bellis

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu

Nod y papur trafod yw helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’n rhoi cipolwg ar yr anghydraddoldebau iechyd a brofwyd gan grwpiau gwahanol o’r boblogaeth yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig Coronafeirws (COVID-19), gan ddefnyddio methodoleg ystadegol arloesol, ‘Dadansoddi dadgyfansoddiad’.

Mae’r papur yn ceisio meintioli’r bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi dealltwriaeth well o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau ffyniannus i bawb, gan ddefnyddio fframwaith newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n defnyddio tri mesur iechyd hunangofnodedig: 1) mynychder iechyd gweddol/gwael; 2) mynychder lles meddwl isel; a 3) mynychder bodlonrwydd bywyd isel, gan gymharu’r rhain rhwng:
• Y rheiny sydd yn gallu gwneud arbediad o £10/mis o leiaf a’r rheiny nad ydynt yn gallu gwneud hynny;
• Y rheiny sydd yn nodi amddifadedd materol a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny; a
• Y rheiny sydd yn nodi salwch, anabledd neu eiddilwch cyfyngus hirdymor a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny.

Mae’r dadansoddiad wedi creu mewnwelediad i ysgogwyr annhegwch iechyd, gan nodi’r rheiny sy’n cyfrannu fwyaf, sef ‘Cyfalaf Cymdeithasol a Dynol’ a ‘Diogelwch Incwm ac Amddiffyniad Cymdeithasol’; tra bod ‘Gwasanaethau Iechyd’ wedi rhoi cyfrif am y lleiaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau systematig yn gallu esbonio llai na hanner (<50%) y bylchau iechyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd, yn seiliedig ar y modelau ystadegol.

Mae’r papur yn amlygu’r angen am fasged o benderfyniadau polisi a buddsoddi, gan flaenoriaethu prif ysgogwyr annhegwch iechyd, mewn cytundeb ar draws sectorau. Mae archwilio ac ymgysylltu pellach gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, grwpiau a chymunedau perthnasol yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r bwlch tegwch iechyd a’i ysgogwyr.

Mae’n gobeithio llywio’r rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol canlynol:
• Gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol
• Gwneuthurwyr polisïau a deiliaid cyllidebau ar lefelau cenedlaethol a lleol
• Ystadegwyr, gwyddonwyr iechyd a dadansoddwyr data
• Pawb sydd â rôl yn dylanwadu ar y bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt

Awduron: James Allen, Mariana Dyakova+ 4 more
, Andrew Cotter-Roberts, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Mark Bellis