Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Lles, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi canfod y gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb arbed £322 miliwn bob blwyddyn i ysbytai yng Nghymru.

Mae hyn yn cyfateb i ysbyty GIG newydd sbon, neu gyflogau blynyddol bron 10,000 o nyrsys ychwanegol bob blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fel arall, gallai’r arian a arbedir hefyd ddarparu pedair gwaith y cyllid sydd ei angen ar gyfer rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru, sef Dechrau’n Deg, sy’n ceisio cefnogi’r teuluoedd, y cymunedau a’r plant ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae’r adroddiad sy’n edrych ar wahanol wasanaethau ysbytai yn dweud y gallai camau ataliol, sydd wedi’u targedu at wella tegwch iechyd rhwng cymunedau breintiedig a difreintiedig, helpu i leihau bwlch gofal iechyd o £322 miliwn, yn enwedig mewn derbyniadau brys a phresenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ystod yr ymateb i bandemig COVID-19 ac adferiad y GIG a’r economi ehangach yng Nghymru yn y dyfodol. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae’r darn hwn o waith unwaith eto’n dangos y cysylltiad rhwng afiechyd ac amddifadedd – cyswllt a fydd, yn anffodus, wedi’i ddyfnhau gan effaith y pandemig. 

“Mae’r GIG dim ond yn rhan o’r stori o ran gwrthdroi anghydraddoldebau iechyd dwfn, sy’n golygu bod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn aml â’r iechyd gwaethaf. Mae angen i ni edrych ar achosion bob dydd afiechyd, gan gynnwys addysg, tai a chyflogaeth. Mae ymchwil wedi dangos y gall gwella’r rhain helpu i roi terfyn ar y cylch o anghydraddoldebau iechyd. Ond mae angen i ni hefyd barhau i weithio i wella mynediad at ofal iechyd a rheoli cyflyrau hirdymor presennol pobl yn well yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi.”

Dywedodd Mark Bellis, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Yn anffodus, am ddegawdau lawer, mae’r rhai sydd ag incwm is, llai o adnoddau ac sy’n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig yn aml yn dioddef iechyd gwaeth trwy gydol eu bywydau. Gallant ddatblygu mwy o broblemau iechyd ar oedran iau gan gynnwys achosion sefydledig o salwch a marwolaeth gynnar fel clefyd y galon, ac maent hefyd mewn mwy o berygl o fygythiadau newydd gan gynnwys COVID-19. Yn yr adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym wedi archwilio faint o arian y gellid ei arbed yng nghostau gofal iechyd ysbytai’r GIG pe baem yn cau’r bwlch anghydraddoldebau hwn. Mae’r canfyddiadau’n nodi bod tua £9 ym mhob £100 sy’n cael ei wario mewn ysbytai o ganlyniad i anghydraddoldebau iechyd parhaus, sy’n gyfystyr â thraean o biliwn o bunnoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Dim ond cost anghydraddoldebau i wasanaethau ysbytai yw hyn a bydd gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol yn archwilio’r arbedion posibl mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymdeithasol os ydym yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.”

Dywedodd Dr Brendan Collins, Pennaeth Economeg Iechyd Llywodraeth Cymru:

“Mae hwn yn ddarn defnyddiol iawn o waith sy’n dangos bod y gwariant ar ofal ysbyty yn uwch ar bobl mewn ardaloedd mwy difreintiedig; mae’r graddiant cymdeithasol ar ei fwyaf ar gyfer gofal heb ei gynllunio a allai ddangos risg uwch o drawma, anafiadau ac anghenion gofal eraill heb eu cynllunio, a gall nodi cyfleoedd i wneud diagnosis a rheoli cyflyrau tymor hir yn well yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar ardaloedd mwy difreintiedig. Dim ond un rhan o’r stori yw’r system iechyd; mae angen i ni edrych ar achosion bob dydd iechyd fel addysg, tai a chyflogaeth a sut rydym yn atal afiechyd ar draws y cwrs bywyd — materion y tynnodd y pandemig sylw atynt hyd yn oed yn fwy.”

Gellir gweld yr adroddiad llawn yma.

Archwilio’r data yn fanwl

Mae’r adroddiad yn cynnwys dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n eich galluogi i weld yn fanwl y costau sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn ôl categori gwasanaeth, rhyw, oedran a lefel amddifadedd. Gellir gweld yr offeryn rhyngweithiol yma.

Noder, mae’r dangosfwrdd wedi’i optimeiddio i’w ddefnyddio ar ddyfeisiau bwrdd gwaith