Mae Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio’r adnodd e-Ddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang cyntaf ar gyfer GIG Cymru Mae’r platfform dysgu ar-lein rhad ac am ddim hwn wedi’i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol  ac i unrhyw un yn GIG Cymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, yr hyn mae’n ei olygu i’n bywydau bob dydd, deall safbwyntiau rhyngwladol a phrofiadau gweithwyr iechyd proffesiynol a sut y gallwn gyfrannu, helpu trwy gynnig atebion a dod yn fwy ymwybodol yn fyd-eang yn y gwaith a’r tu allan iddo.

Wedi’i rannu’n chwe modiwl, modiwl craidd a phump yn mynd ‘at wraidd y mater’, mae’r modiwlau’n ymdrin â phynciau megis; cymorth a datblygiad, iechyd sy’n seiliedig ar hawliau, globaleiddio, newid hinsawdd a heddwch a gwrthdaro. Mae’n hawdd cael mynediad at yr adnodd hwn ar blatfform e-ddysgu’r GIG, Learning@Wales. Mae’n rhyngweithiol, lliwgar, yn hawdd ei ddefnyddio ac mae’n adnodd hynod werthfawr i weithwyr proffesiynol y GIG.

Gweler y daflen sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth ar y modiwlau a sut i gael mynediad atynt ar-lein.

Mae’r adnodd wedi’i gomisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Oxfam Cymru. Mae’n cael ei lansio heddiw yng Nghynhadledd Iechyd Cymru ac Affrica 2021.