Ar 21-22 Mehefin, lansiodd Comisiynydd Iechyd a Diogelwch Bwyd Ewrop, Vytenis Andriukaitis, gyfarfod cyntaf Gweithredu ar y Cyd ar Anghydraddoldebau Iechyd ”Tegwch Iechyd yn Ewrop” yn Lwcsembwrg.
Siaradodd y Comisiynydd i rychwant eang ac uchelgeisiol y Gweithredu ar y Cyd hwn, gan ddisgrifio’r Gweithredu ar y Cyd fel fforwm allweddol i hybu mwy o degwch mewn canlyniadau iechyd a lleihau gwahaniaethau rhwng gwledydd a chyfranogiad pob Aelod-wladwriaeth bron.
Gyda’i ffocws ar benderfynyddion economaidd-gymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn ymwneud â ffordd o fyw, yn cynnwys ffocws penodol ar fudwyr a grwpiau agored i niwed, mae gan y Gweithredu ar y Cyd 4 amcan penodol:
- cyfrannu at gynllunio a datblygu polisïau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefel Ewropeaidd, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol;
- rhoi camau ar waith sy’n rhoi’r cyfle gorau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn Aelod-wladwriaethau sy’n cymryd rhan;
- cryfhau ymagwedd gydweithredu yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a hwyluso cyfnewid a dysgu ymysg Aelod-wladwriaethau;
- Hwyluso trosglwyddo arferion da.
Mae mwy o wybodaeth am y Gweithredu ar y Cyd newydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Ewrop ar gael trwy wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Mynychodd Dr Gill Richardson a Cathy Weatherup gyfarfod JAHEE fel cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Cymru wedi ymrwymo i gymryd rhan yn Rhaglen Gweithredu ar y Cyd ar Degwch Iechyd Ewrop (JAHEE) mewn cyfarfod yn Lwcsembwrg.
Mae JAHEE, rhaglen 3 blynedd gyda chyllideb o €3.125 miliwn, wedi ei chydlynu gan yr Instituto Superiore di Sanità yn Rhufain (yr Eidal), yn gyfle i wledydd sy’n cymryd rhan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol sylfaenol iechyd ar draws Ewrop ar y cyd.
Mynychwyd yr achlysur lansio gan 49 o arbenigwyr iechyd y cyhoedd o 25 o wledydd yr UE (Undeb Ewropeaidd) ynghyd ag arbenigwyr oedd wedi cael gwahoddiad o Norwy, Serbia a Bosnia Herzegovina.
Amcan sylfaenol y prosiect yw gwella iechyd a lles dinasyddion Ewropeaidd a chael mwy o degwch mewn canlyniadau iechyd ar draws yr holl wledydd a grwpiau ar draws cymdeithas trwy archwilio penderfynyddion economaidd-gymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd sy’n ymwneud â ffordd o fyw. Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar fudwyr gan fod iechyd gwael a diffyg mynediad i wasanaethau iechyd yn aml yn rhwystr i fwy o integreiddio.
Cynrychiolwyd Cymru, yr unig wlad yn y DU (y Deyrnas Unedig) i gymryd rhan, gan dîm ar y cyd o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Cathy Weatherup a Gill Richardson o’r Is-adran Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol a Rhodri Wyn Jones o Lywodraeth Cymru. Fel unig gynrychiolwyr y DU, bydd y tîm yn lledaenu unrhyw negeseuon a chynnyrch o’r Gweithredu ar y Cyd i wledydd eraill y DU gan ddefnyddio rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli.
Bydd y cydweithwyr yn cefnogi’r rhaglen gyffredinol a’r asesiadau gwlad, a bydd Gill yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Ewrop, o dan arweiniad Norwy, i archwilio ffyrdd o leihau anghydraddoldebau yn iechyd mudwyr rhyngwladol.
Yn y cyfamser, bydd Cathy’n gweithio gyda grŵp, o dan arweiniad cydweithwyr o’r Ffindir, i ganolbwyntio ar lywodraethu a systemau’n ymwneud â pholisi iechyd er mwyn sicrhau bod iechyd a thegwch yn cael eu hystyried ym mhob polisi ar draws lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd. Mae Cymru’n arwain y ffordd yn y maes hwn trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, disgwylir y byddwn yn llunio ac yn dylanwadu ar waith sy’n dod i’r amlwg gan ddefnyddio ein profiad presennol fel canllaw.
Mae’r Gweithredu ar y Cyd yn cysylltu â gwaith Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ewrop sydd yn monitro ac yn olrhain anghydraddoldebau iechyd ar draws y rhanbarth. Bydd Gill yn cefnogi Chris Brown, Cyfarwyddwr Canolfan Fenis WHO, yng nghyfarfod pwyllgor WHO Ewrop yn Rhufain yr wythnos nesaf lle bydd WHO Fenis yn lansio Offeryn Adrodd ar Statws Tegwch Iechyd (HESRi).
Bydd y Gweithredu’n defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data i nodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws Ewrop yn cynnwys Adroddiad Iechyd Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a gyhoeddwyd ar 12 Medi 2018.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.