Offeryn Darganfod Ymddygiad
Offeryn ymarferol, ar-lein i’ch tywys trwy’r ystyriaethau hanfodol i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau a allai fod ar waith yn eich mater iechyd gwell.
Offeryn ymarferol, ar-lein i’ch tywys trwy’r ystyriaethau hanfodol i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau a allai fod ar waith yn eich mater iechyd gwell.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 i adlewyrchu’r newidiadau sylweddol yn y dirwedd fyd-eang yn well a galluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod tymereddau dan do o <18°C yn cael eu cysylltu ag effeithiau iechyd negyddol. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi, asesu a diweddaru tystiolaeth ar y cysylltiad rhwng tymereddau oer (h.y. <18°C) mewn cartrefi a’r canlyniadau iechyd a llesiant. Mae bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth gyfredol yn cael eu nodi, yn cynnwys ymchwil ar effeithiau tymereddau oer ar iechyd meddwl a llesiant, astudiaethau’n cynnwys plant ifanc ac effeithiau hir dymor tymerddau oer dan do ar iechyd.
Mae cartrefi ledled Cymru a ledled y byd yn profi cynnydd mewn costau byw. Ers diwedd 2021,mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer eitemau sylfaenol fel bwyd ac ynni wedi bod yn fwy na’r cynnydd mewn cyflogau cyfartalog a thaliadau lles, gan arwain at ostyngiad mewn incwm gwario gwirioneddola. O ganlyniad, mae pwysau cynyddol ar gyllidebau cartrefi yn ei gwneud yn anoddach i bobl fforddio’r pethau sylfaenol a chyfeirir ato’n aml fel ‘argyfwng costau byw’. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a ddatblygwyd i ddeall sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd yng Nghymru; eu hymagweddau a’u penderfyniadau yn ymwneud â chostau byw cynyddol; a’u hymwybyddiaeth o gymorth a chynlluniau ariannol a mynediad iddynt.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r dystiolaeth lefel adolygiad sydd ar gael i arwain camau gweithredu ar leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn iechyd. Ceisiwyd tystiolaeth ar gyfer ymyriadau, rhaglenni a pholisïau iechyd y cyhoedd sy’n berthnasol i boblogaethau, grwpiau ac ardaloedd neu awdurdodaethau eraill a ddiffinnir yn ddaearyddol i archwilio a ydynt yn gwella canlyniadau iechyd pobl sy’n profi anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn ffafriol.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaeth strategol newydd: mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus newid yn yr hinsawdd, i gydnabod mai’r argyfwng hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth.
Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd.Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Awst 2023 sy’n cwmpasu:Adrannau Argyfwng, Ymgyrchoedd, Costau Byw, Iechyd Deintyddol, Sgrinio’r Coluddyn a Rheoli Pwysau Ôl-enedigol.
Mae’r nodyn briffio hwn yn canolbwyntio ar addasu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghymru a chymhwyso Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd wrth gynllunio polisïau addasu. Mae’n cynnwys pum astudiaeth achos – dwy ryngwladol a thair o Gymru, ac mae’n darparu enghreifftiau sy’n canolbwyntio ar weithredu o roi HIA ar waith.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd
Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Erthygl Sbotolau newydd, sy’n tynnu sylw at gamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar ‘Gwent Teg i Bawb: Rhanbarth Marmot cyntaf Cymru’.
Wrth i Went ymgymryd â’i rôl fel Rhanbarth Marmot, bydd dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cael ei fabwysiadu i greu amgylcheddau sy’n meithrin iechyd da. Trwy hyn, bydd sawl maes allweddol yn dod dan sylw, gan gynnwys sicrhau mynediad at addysg o safon, cyfleoedd cyflogaeth, a gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy.
Nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn negodi cytundebau masnach ryngwladol ar ran gweddill y DU am y tro cyntaf ers bron i hanner degawd. Mae gan gytundebau masnach ryngwladol y potensial i gael effaith gadarnhaol a negyddol ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru.
Yma rydym yn darparu methodoleg weledol ar gyfer archwilio’r ffyrdd y gallai cytundebau masnach rhyngwladol penodol gael yr effaith hon drwy lens y nodau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn yr adroddiad ffeithlun hwn, rydym yn crynhoi effeithiau posibl y DU yn ymuno â Chytundeb Masnach Rydd y Bartneriaeth Traws-Môr Tawel Gynhwysfawr a Chynyddol (CPTPP).
Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy’n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu’n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu’r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.
Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .
Mae’r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o’r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau’r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiad o lenyddiaeth o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant. Defnyddiwyd y canfyddiadau i wneud argymhellion ar draws un ar ddeg o feysydd gweithredu polisi blaenoriaeth.
Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol, gan adael pobl â llai o wydnwch i heriau iechyd gydol eu hoes. Mae’r astudiaeth hon yn archwilio a yw lefelau iechyd meddwl, iechyd corfforol ac ansawdd cwsg unigolion a’r newidiadau yn y lefelau a adroddwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig COVID-19 yn gysylltiedig ag ACEs ac a ydynt yn cael eu lleddfu gan asedau cymdeithasol megis cael teulu a ffrindiau y gellir ymddiried ynddynt.
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cwmpasu gwahanol fathau o brofiadau poenus, e.e. cam-drin corfforol a/neu emosiynol. Gall deall effeithiau gwahanol fathau o ACEs ar wahanol ganlyniadau iechyd arwain gwaith atal ac ymyrraeth wedi’i dargedu. Gwnaethom amcangyfrif y cysylltiad rhwng y tri chategori o ACEs ar eu pen eu hunain a phan oeddent yn cyd-ddigwydd. Yn benodol, y berthynas rhwng cam-drin plant, bod yn dyst i drais, a thrafferthion yn y cartref a’r risg o fod ynghlwm â thrais, cymryd rhan mewn ymddygiad sy’n niweidio iechyd, a phrofi salwch meddwl.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Mehefin 2023
sy’n cwmpasu: Rhestrau aros y GIG, Tai, Bod yn dyst i Drais, Llesiant meddyliol, Gofal sylfaenol.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Iechyd a Llesiant Meddwl Ffoaduriad a Chesiwyr Lloches
Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc yn dwyn ynghyd y cyfraniadau hyn, sy’n rhoi cipolwg anghyffredin ar y materion sy’n cael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â’u blaenoriaethau er mwyn atal trais.
Dylid darllen yr adroddiad ar y cyd â Fframwaith Cymru Ddi-drais
Mae animeiddiad Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) yn rhoi trosolwg o ymarferoldeb y platfform ac yn arwain y defnyddiwr fesul tudalen trwy bob adran ac adnodd. Mae’n arddangos yr Adnodd Data a’r Cynhyrchydd Adroddiadau hawdd eu defnyddio, y gellir eu teilwra i’r maes diddordeb a ddymunir i gynhyrchu allbynnau i lywio gwaith a llunio mewnwelediadau.
Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar iechyd (HIA) yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol agos i’r hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru. Mae’n darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu cyrff cyhoeddus, asiantaethau a sefydliadau yn eu paratoadau ar gyfer newid hinsawdd a digwyddiadau newid hinsawdd a’u hymatebion iddynt. Ei nod yw cefnogi mabwysiadu polisïau a chynlluniau a all hybu a diogelu iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru ac yn y grwpiau poblogaeth ac ardaloedd daearyddol hynny sydd mewn perygl arbennig o effeithiau negyddol.
Mae allbynnau’r gweithgarwch HIA yn cynnwys:
• Adroddiad Cryno HIA seiliedig ar dystiolaeth
• Penodau unigol ar dystiolaeth o effaith newid hinsawdd ar benderfynyddion ehangach iechyd a grwpiau poblogaeth yng Nghymru
• Set o 4 ffeithlun
• Dec sleidiau PowerPoint
• Adroddiad Technegol
Mae cyfoeth o dystiolaeth sy’n dangos yr effaith sylweddol y mae cartrefi pobl yn ei chael ar eu hiechyd a’u llesiant.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o bapurau briffio sy’n ceisio troi’r dystiolaeth hon yn gamau gweithredu. Bydd y gyfres briffio yn:
• Amlinellu ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol tai iach yng Nghymru.
• Rhannu enghreifftiau o sut mae ‘da’ yn edrych ar sail tystiolaeth bresennol ac arfer nodedig.
• Defnyddio’r mewnwelediad hwn, ochr yn ochr â thystiolaeth o brofiadau byw pobl, i nodi camau gweithredu a fydd yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Mae’r papur briffio hwn yn gosod y cyd-destun ar gyfer y gyfres a’r themâu a’r pynciau y bydd yn ymdrin â nhw.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor hwy yn dilyn derbyniad y DU i’r CPTPP.
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried a diffinio eich ymddygiad targed a phoblogaeth darged, wrth i chi greu ‘manyleb ymddygiadol’.
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried a diffinio eich ymddygiad targed a phoblogaeth darged, wrth i chi greu ‘manyleb ymddygiadol’.
Adroddiad i archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad o fewn ymarfer iechyd y cyhoedd ledled Cymru.
Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.
Mae’r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy’n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy’n gysylltiedig â’r termau hynny. Mae’r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol.
Bydd y tîm yn datblygu’r platfform dros amser er mwyn ychwanegu cynnwys a nodweddion ychwanegol.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn panel cynrychiolaeth genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru o drigolion 16 oed a hŷn yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Ym mis Ebrill fe wnaethom gyhoeddi adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Chwefror – Mawrth 2023 a oedd yn canolbwyntio ar sgrinio, cynaliadwyedd, ymgyrchoedd a phryderon cyfredol. Mae’r ail adroddiad hwn o arolwg Chwefror – Mawrth 2023 yn canolbwyntio ar ganfyddiadau sy’n ymwneud ag amgylcheddau bwyd a phwysau iach.
Mae’r papur briffio hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y cymerodd y DU a Chymru ran ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Yna bydd yn archwilio sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a pha effaith bosibl y gallant ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Mae cyfalaf cymdeithasol yn factor amddiffynnol i iechyd a lles, mae gwahaniaethau yn cyfrannu’n sylweddol at anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r papur yn darparu adolygiad cyflym o ddylanwad perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn ar iechyd a sut mae COVID-19 a’r heriau costau byw presennol yn effeithio arno. Mae’n tynnu sylw at bolisïau ac arferion sy’n cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn gyda’r bwriad o wella llesiant, dod dros heriau ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau hŷn y presennol a’r dyfodol.